Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Ein hanes
Yn Mawrth 2021, rhannwyd gair ar gyfer eglwysi yng Nghymru o gyfarfod gweddi yn Redhill yn Lloegr. Dehonglwyd y gair i ddweud:
Mae Duw Dad, drwy ei Ysbryd Glân:
- yn dangos fod gobaith i eglwysi ym mhob rhan o Gymru i weithio gyda’i gilydd. Rwy’n meddwl ei fod yn eich gwahodd i geisio’r cydweithio / partneriaeth fel blaenoriaeth o ran ymdrech.
- yn cydnabod y gorffennol, ond dyna yw...yn y gorffennol. Mae’r gorau eto i ddod yn nhermau’r efengyl, a gallu’r eglwys i wneud gwahaniaeth. Bydd gan eglwys y dyfodol ei ffordd ei hun, nid ail-ysgrifennu’r gorffennol gyda ychydig o rywbeth newydd.
- yn dweud fod prydferthwch a bywyd yn yr eglwys yng Nghymru yn awr, a bod addewid am gynnydd yn hyn ar gyfer y dyfodol.
- yn dweud fod gweithgarwch yn angenrheidiol gyda gwaith yr Ysbryd Glân, e.e. yr hyn chi’n ei wneud i estyn allan yn gymdeithasol; creu perthynas gydag eglwysi eraill yng Nghymru, bydd gweddïo yn hanfodol i’w weledigaeth ar gyfer yr eglwys yng Nghymru.
- yn dangos, er pwysiced yw canolbwyntio ar Gymru ei hun, nid yw’n dod i ben yno. Mae’r hyn y mae’n ei adeiladu ar dy gyfer di ar gyfer dy gymdogion hefyd. Nid amser amddiffyn yw hyn, ond amser i adeiladu er na weli pa mor bell y bydd y gwaith yn ymestyn.
Bu’n ddau fis cyn i’r gair yma gyrraedd yr eglwysi oedd e wedi ei fwriadu i (camgymeriad gweinyddol neu llaw sofran Duw), ond, yn y cyfamser, yr oedd Ben wedi cael breuddwyd am weledigaeth Cant i Gymru.
Daeth ar ffurf gwefan, gyda’r enw 100.cymru.
Yn y freuddwyd yr oedd Ben yn medru gweld y wefan, gwefan oedd gyda cwestiwn ar y faner:
"Beth fyddai’n ei gymryd i weld 100 o eglwysi iach yn cael eu plannu yng Nghymru yn ystod y degawd nesaf?"
Yr oedd 5 tab i’r wefan; Gweddi, Ysbrydoli, Arfogi, Anfon, Cefnogi – gyda tudalen o strategaeth/cyfeiriad am ffyrdd posibl o gychwyn y fenter yma.
Y freuddwyd a chadarnhad y gair dderbyniwyd oedd yr hyn enynnodd geni’r weledigaeth hon.
Treuliodd Ben a Lois ddwy flynedd yn mynd i’r afael â’r weledigaeth, gan weddïo drwyddi, a siarad â grŵp o arweinwyr yr oeddent yn ymddiried ynddynt. Wrth archwilio fwy-fwy daethant yn fwy-fwy ymwybodol o law Duw yn y cyfan, ac felly, gyda’r tîm o’u hamgylch ag arweinwyr o wahanol rannau o Gymru, maent yn camu allan mewn ffydd i geisio gwireddu’r weledigaeth.
Bellach y mae gennym y tîm o arweinwyr, arolygaeth ag atebolrwydd drwy Cymrugyfan, a cryn gyffro wrth edrych ymlaen at y ffordd y bydd Duw yn defnyddio’r fenter hon dros y degawd nesaf.
Ein tîm