Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.

Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Cyfrannu
Wrth inni freuddwydio am rwyddhau plannu eglwysi ar draws Cymru dros y degawd nesaf, ni'n gwybod fod ariannu plannu eglwysi, timoedd i blannu a’r hyfforddiant sydd ei angen arnynt yn elfen allweddol.
Mae llawer o bobl o amgylch Cymru a’r byd yn gyfarwydd â’r storïau am waith Duw yng Nghymru yn y gorffennol. Er hynny, prin yw’r bobl sy'n gwybod am y nifer di-rif o noddwyr yr efengyl oedd yn cefnogi gwaith Duw yn ariannol.
Os hoffet fod yn rhan o ysbrydoli, arfogi a rhyddhau ton newydd o waith plannu eglwysi yng Nghymru, mae’n bosibl iti gyfrannu drwy’r ddolen isod. Neu, os hoffet sgwrs bellach am hyn, maen bosibl cysylltu yma.
Os oes well gennych chi roi yn uniongyrchol, neu os hoffech chi drefnu archeb sefydlog, cysylltwch â ni er mwyn derbyn ein manylion banc os gwelwch yn dda.