Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Y Weledigaeth
Er bod treftadaeth ysbrydol Cymru’n gyfoethog a llawn bywyd, mae’r argoelion presennol ar gyfer yr Eglwys yn weddol dywyll. Ychydig llai na 200 mlynedd yn ôl, dywedodd Christmas Evans hyn am genedl y Cymry:
Efallai na welir un genedl yn ôl rhifedi y Cymry wedi cael ei hennill mor gyfan i wrando yr Efengyl. Mae teiau cyfarfod wedi eu hadeiladu trwy holl gonglau y wlad, a'r werin gan mwyaf, ie, braidd i gyd, yn ymdyrru i wrando. Hefyd, nid oes wybodaeth am un genedl, yn ôl ei rhifedi, wedi proffesu yr Efengyl mor gyffredinol, yn y Deheudir ac yn Ngogledd Cymru.
Ar droad yr 20fed Ganrif, yr oedd ‘bod yn Gymro bron yn gyfystyr â bod yn Gristion’, gyda dros 80% o’r boblogaeth yn mynychu capel Cymraeg neu Saesneg.
Erbyn heddiw, llai na 2% o’r boblogaeth sy’n ystyried eu hunain fel pobl â pherthynas byw gyda Iesu. Mae’r capeli oedd yn llawn yn gorwedd yn wag ac yn adfeilion.
Ond, mae gobaith. Trwy drugaredd, nid hwn yw’r tro cyntaf i bobl yr Arglwydd gael y profiad o fod yn bobl yr ymylon, o fod fel petai yn cael eu trechu, o fod yn wynebu trai.
Meddyliwch am Dafydd a Goliath. Gan sefyll o flaen y cawr anferth yma oedd wedi gwneud i fyddinoedd Israel grynu mewn ofn, enillodd y bachgen o fugail, wedi ei gynhyrfu gan ogoniant Duw, ac yn ymddiried yn addewidion Duw, fuddugoliaeth cwbl annisgwyl. Cwympodd y cawr. Adferwyd y gogoniant.
Neu, meddyliwch am yr offeiriad a ddychwelodd i Jerwsalem wedi’r gaethglud. O wynebu adfeilion a rwbel ar bob llaw, yr oedd y dyfodol yn ymddangos yn dywyll. Ond, dychmygodd yr offeiriaid ddyfodol gwahanol; mae’r dychymyg a daniwyd gan yr Ysbryd ynddynt yn arwain at gamau hyderus. ‘Er bod ganddyn nhw ofn y bobl leol, dyma nhw'n gosod yr allor ar ei safle wreiddiol, a dechrau llosgi offrymau i'r ARGLWYDD arni bob bore a nos.’ (Esra 3:3) Ail-adeiladwyd yr allor. Dychwelodd y gogoniant.
Mae hanes yn ein dysgu, pan mae pobl Dduw yn mentro mewn ffydd ostyngedig a hyderus, mae cewri’n cwympo, ail-adeiledir allorau ac mae’r tir yn cael ei adfywio.
Dyma ein breuddwyd.
Rydym am fod yn rhan o genhedlaeth sydd wedi profi Duw yn cynhyrfu ein calonnau yn ein dyhead am weld Ei ogoniant. Rydym am ail-adeiladu mannau presenoldeb Duw yn ein tir.
Ein gwerthoedd