Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Mae Cant i Gymru yn gasgliad o ffrindiau’r Efengyl o Gymru a’r byd, pobl sy’n credu Duw ar gyfer ton newydd o genhadaeth fydd yn plannu yng Nghymru dros y ddegawd nesaf.
Mae’r llwybr i’r 100
yn dechrau gyda ti
Ymunwch â byddin o eiriolwyr cyffredin i roi 15 munud bob wythnos i weddïo dros blannu eglwysi, a dros ddiwygiad yng Nghymru.
Mae Cymru yn cael ei hadnabod ar draws y byd fel gwlad y diwygiadau. Drwy’r cenedlaethau mae Ysbryd Duw wedi symud yn rymus i fywhau’r eglwys ac i iacháu’r tir drwy’r efengyl. Rydym yn dyheu am ddyddiau tebyg eto. Ond, y tu ôl i’r symudiadau yma gan Dduw fe welwn un nodwedd gyffredin, un gweithgarwch cysegredig sy’n paratoi’r ffordd; gweddi.
Dyma pam rydym yn angerddol dros godi byddin o eiriolwyr cyffredin, i gynnau 100 awr o weddi bob dydd, gweddi dros blannu, a dros ddiwygiad yng Nghymru.
Rydym am gynnau 100 awr o weddi bob dydd, gweddi dros blannu, a dros ddiwygiad yng Nghymru.
Wnei di ymuno â ni?
I sicrhau gweld 100 o eglwysi yn cael eu plannu yn y ddegawd nesaf yng Nghymru, rydym angen gweld pobl sydd yn barod i roi eu bywyd i blannu'r rhain.
Rydym angen gweld eglwysi yn cael eu hysbrydoli â ffydd newydd, brys dros weld yr Efengyl yn llwyddo a dros ddylanwad cenhadol y tu hwnt i’w cyd-destun lleol.
Rydym angen pobl, ifanc a hen, i gredu y gall Duw eu defnyddio i wneud gwahaniaeth, a bod tywallt eich bywyd er gogoniant Duw yn fwy na gwerth yr ymdrech.
P’un ai wyt ti’n byw yng Nghymru, neu ar ochr arall y byd, byddem wrth ein bodd os y byddet yn barod i chwarae dy ran.
Gwahodd Siaradwr
Os hoffet inni ddod i siarad â dy eglwys, clwb ieuenctid, undeb Gristnogol, neu grŵp Cristnogol arall am blannu eglwysi yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn dod!
Wedi dy ysbrydoli?
Arweinydd eglwysi
Byddem wrth ein bodd yn cysylltu a breuddwydio gyda chi. Beth am gwrdd am baned a sgwrs?
Mae plannu eglwys yn waith heriol. Os ydym yn dymuno gweld eglwysi sydd wedi eu plannu yn ffynnu ac yn dwyn ffrwyth parhaol, mae’n hanfodol fod y rhai sy’n plannu, a’r tîm sydd yn gweithio’n lleol wedi eu paratoi ar gyfer y dasg, ac yn naturiol, mae hyn yn golygu mynediad at yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt.
Cefnogir Cant i Gymru gan amryw o bartneriaethau hyfforddiant i gynorthwyo'r rhai sy’n plannu i gael mynediad at yr hyfforddiant ffurfiannol, y sylfaen ddiwinyddol a’r sgiliau ymarferol y bydd eu hangen i ffynnu.
Yn Ogystal, rydym wedi adeiladu ‘Arf Datblygu Plannwr Eglwysi’ i gynorthwyo'r rhai sy’n meddwl am blannu i baratoi ar gyfer y dasg sydd o’u blaen.
Cyllid a hyfforddiant
Rydym hefyd yn y broses o ddatblygu rhwydwaith o gefnogwyr i gynorthwyo i ariannu’r hyfforddiant fydd ei angen arnynt. Os wyt ti yn rhywun sy’n cael dy alw i blannu, ac mae cyllid yn rwystr iti gamu ymlaen, byddem wrth ein bodd gweld a oes modd i ni roi cymorth i chi.
Ar ein blog, mae Rhys yn rhannu ei stori o’r ffordd y mae menter Cant i Gymru wedi ei gefnogi’n ariannol wrth iddo hyfforddi a phlannu Eglwys Godfirst, Y Bari
Mae Cymru angen Iesu. Mae niferoedd di-rif o gymunedau yn ein tir sydd bellach heb dystiolaeth i’r Efengyl. Mae yna nifer di-rif o bobl sy’n bod heb gyfle i ddod wyneb yn wyneb â Iesu. Mae’r cynhaeaf yn fawr. Mae’r gweithwyr yn brin.
Nod y gweddïo, yr ysbrydoli a’r arfogi yw sicrhau fod pobl yn cael eu hanfon i weithio’r cynhaeaf yng Nghymru.
Rydym am ffurfio partneriaethau ag eglwysi lleol er mwyn codi ag anfon byddin o rai fydd yn plannu eglwysi, er mwyn dod â’r Efengyl yn ôl i ganol ein cenedl, cenedl rydym yn ei charu.
100 o eglwysi, 10 mlynedd.
Beth sydd ei angen?
Y mae Cant i Gymru yn bodoli er mwyn sicrhau fod y rhai sy’n plannu eglwys yn ymwybodol fod ganddynt gefnogaeth a chynhaliaeth, ac yn gwybod nad ydynt ar ben eu hunain. Rydym am fod yn griw o frodyr a chwiorydd sy’n gweddïo dros a gyda’n gilydd, ar ben draw’r ffôn pan mae pethau yn mynd o chwith, neu os yw’r daith yn anodd!
DYDDIAU ARWEINWYR & ENCIL
Ein bwriad yw creu rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau ar gyfer y rhai sy’n plannu eglwysi ac arweinwyr eglwysig, fydd yn ofod i ddatblygu cyfeillgarwch, cael profiad o orffwys ac adnewyddiad, a chyfle i gael mewnbwn ysbrydol sy’n aml yn brin wrth fod ar faes y gad. Byddwn yn cynnal encil ar gyfer cyplau sy’n plannu yn flynyddol – cei edrych ymlaen at gyfnod i ffwrdd mewn lleoliad hyfryd. Ymuna â’r Diwrnod Arweinwyr neu Encil nesa.
HYFFORDDI A MENTORA
Mae’r rhai sy’n plannu, a’r timoedd sy’n gweithio gyda nhw angen llawer o anogaeth, cymorth a chefnogaeth, yn arbennig felly yn y dyddiau cynnar cyn i’r eglwys a strwythurau arweinyddiaeth sefydlogi. Y mae gennym ymarferwyr profiadol yma yng Nghymru ac o gwmpas y byd all dy gynorthwyo i ddarganfod dy ffordd. Os gall hyn fod o gymorth, cysyllta â ni.
CYLLID AR GYFER PLANNU EGLWYS
Mae angen cyllid ar eglwysi sy’n cael eu plannu. Does gan nifer o’r rhai sy’n plannu fawr o syniad sut mae cychwyn yn y maes hwn. Rydym wedi bod wrthi yn datblygu partneriaethau â noddwyr o Gymru, y DU a’r byd sy’n awyddus i gefnogi ein gweledigaeth o weld 100 o eglwysi yn cael eu plannu yn y ddegawd nesaf.
Os wyt angen cymorth gyda chyllido'r gwaith o blannu, yna, cysyllta â ni yma. yma.
IECHYD YSBRYDOL AC EMOSIYNOL
Mae arweinwyr iach yn esgor ar eglwysi iach. Rydym yn gwybod o brofiad personol beth yw’r gost emosiynol, ysbrydol a hyd yn oed corfforol y mae plannu eglwys yn medru esgor arno yn y Gymru ôl-Gristnogol. rydym am gynorthwyo ym mha ffyrdd bynnag y medrwn.
Rydym yn y broses o ddatblygu partneriaethau fydd yn estyn gofal am iechyd ysbrydol ac emosiynol y rhai sy’n plannu a’r rhai sy’n bugeilio yn ein gwlad. Os wyt yn plannu, neu yn weinidog sy’n wynebu brwydr â iechyd meddwl, blinder ysbrydol, pechod penodol, neu os wyt yn teimlo dy fod wedi colli dy egni i gyd, rydym am dy gynorthwyo cyn iddi fynd i’r pen. Beth am fentro estyn allan atom yma?
CYFEILLGARWCH A HWYL
Gad inni wneud hyn gyda’n gilydd. Dwyt ti ddim ar ben dy hun!! Gad inni adeiladu cymuned sy’n annog ein gilydd ymlaen i weld Duw yn trawsffurfio ein cenedl drwy Ei Eglwys Ef, a gad inni gael ychydig o hwyl ar y daith!