This is the message when attempting to connect to server

This is the custom message when failing

This is the custom message when refused

Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference

/

Diwrnod Dros Gymru

Diwrnod i gasglu'r Eglwys ynghyd i Ddathlu'r hyn y mae Duw yn ei wneud yng Nghymru, i Ennyn ffydd am y rhan y gallai pob un ohonom ei chwarae yng nghenhadaeth Duw ar draws y wlad, ac I alw ar dduw gyda'n gilydd.

9:30

Drysau'n Agor'

18:30

Diwedd y Dydd
  • Addoliad Dwyieithog
  • Sesiynau gan arweinwyr o Gymru a thu hwnt!
  • Amswer o Weddi
  • Cymdeithasu
  • Gwaith plant Cymraeg a Saesneg yn cyd-redeg (bore a prynhawn)

CWESTIYNNAU CYFFREDIN

Beth yw 100 Cymru?

Menter i blannu eglwysi yw Cant i Gymru sy’n gweithio at weld 100 o eglwysi iach yn cael eu plannu yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf. Yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd ar draws rhwydweithiau, ffrydiau ac enwadau, gan gredu, drwy’r fenter hon, bydd llawer o bobl yn dod i glyw y newydd da am Iesu.

Beth yw pwrpas y digwyddiad?

Credwn ein bod wedi ein harwain gan yr Ysbryd Glân i gasglu Cristnogion led-led Cymru ar gyfer digwyddiad ‘Diwrnod i Gymru’. Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad hwn yn fynegiad rhyfeddol o undod ar Ddydd Gŵyl Dewi, ac y bydd hyn yn annog ein ffydd i gredu Duw ar gyfer dydd newydd o gynnydd Ei Deyrnas yn ein cenedl.

Mae yna gynadleddau rhagorol ac amrywiol ar gyfer arweinwyr o amgylch ein gwlad, ond yr oeddem yn synhwyro’r cyfle i gynnull yr Eglwys yn ehangach er mwyn dathlu’r hyn y mae Duw yn ei wneud yng Nghymru, i annog ffydd yn y rhan hynny o’r gwaith yr ydym ni ynglŷn ag ef yng nghenhadaeth Duw ar draws ein gwlad, ac i alw ynghyd ar Dduw am weld Duw yn symud mewn grym.

Pwy sy’n cymryd rhan?

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu ac yn cael ei redeg gan Cant i Gymru sy’n gweithredu o dan adain elusen Cymrugyfan (1114022).

Yr ydym wrth ein bodd hefydd ein bod yn cael ein cefnogi gan y partneriaid canlynol:

  • Elim
  • New Wine Cymru
  • Undeb Bedyddwyr Cymru
  • Ysgol Ddiwinyddiaeth Union
  • Canolfan Ddiwinyddol Westminster
  • Cymdeithas y Beibl
  • Prosiect Derwen
  • Sound of Wales
  • Message Wales
  • Fforwm Arweinyddiaeth Cymru
  • Souled Out Cymru
  • FIEC
  • Llanw
  • Cariad
  • Reach North Wales
  • Mwy i ddilyn!!

Yr ydym yn edrych ymlaen gyda cyffro wrth baratoi i ddod at ein gilydd gyda’r saint o’r rhwydweithiau, grwpiau ac enwadau amrywiol, a hynny er mwyn addoli’r Iesu gyda’n gilydd.

Pryd mae’r digwyddiad?

1af o Fawrth 2025

Beth yw amserlen y dydd?

Bydd y diwrnod yn cychwyn am 10.00 yb ac yn rhedeg tan 6.30 yp.
Bydd cyfle i gofrestru o 9.30 yb.
Bydd rhaglen lawn yn dilyn maes o law.

Ymhle mae’r digwyddiad?

Ar Faes y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd. Byddwn yn defnyddio’r Neuadd Fwyta newydd fel prif leoliad y gynhadledd. (gofod i 1,000 o bobl!)

Sut dw’i yn archebu lle?

Medrwch archebu eich lle ar-lein yma
Prisiau rhatach tan y 15fed o Ragfyr

Sut dw’i yn cyrraedd yno?

Yn draddodiadol yr ydym fel Cymry wedi cydnabod fod Llanelwedd yn le Anghyfleus i bawb i gyrraedd. Un o anawsterau ceisio hyrwyddo achos yr Efengyl ar draws Cymru yw darganfod lleoliad sy’n anrhydeddu daearyddiaeth a thirwedd ein cenedl.

Yr ydym wedi dewis Llanelwedd gan ein bod yn gobeithio ei fod yn ddigon agos i’r dinasoedd yn y De er mwyn i’r bobl yno wneud ymdrech i adael eu hardaloedd cyfarwydd. Ar yr un pryd yr ydym yn gobeithio fod y lleoliad yn ddigon pell o Ogledd Cymru i beri i’r rhai o’r Gogledd werthfawrogi ein bod yn ceisio ei gynnal mewn lleoliad sy’n agored iddynt hwythau. Dyna’r gobaith beth bynnag!!

Y ffordd orau mae’n debyg i gyrraedd yw mewn car. Mae digon o le parcio ar y safle, a bydd stiwardiaid yn cynorthwyo gyda hyn ar y diwrnod.

O ran diddordeb, mae Llanelwedd...

  • Awr ac 20 munud o Gaerdydd
  • Awr a 40 munud o Abertawe
  • Awr a 10 munud o Aberystwyth
  • Awr a 50 munud o Wrecsam
  • Dwy awr a hanner o Dyddewi
  • a dwy awr a 50 munud o Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch

Os y byddwch yn cymryd trafnidiaeth gyhoeddus, mae Llanelwedd ar Lein Calon Cymru (y lein rhwng Abertawe a Craven Arms). Mae’r orsaf 1.6 milltir o’r maes. Os y byddwch angen cymorth gyda lifft, cysylltwch â ni fel tîm.

Fel arall, mae manylion llwybrau bysiau i’w gweld ar www.traveline.cymru

Oes lle i aros?

Mae llety ar y safle yn Neuadd Henllan. Medrwch gysylltu’n uniongyrchol i holi am argaeledd ar:
neuaddhenllan@outlook.com"

Yn naturiol, mae amrywiaeth o lety hunanddarpar / gwely a brecwast yn, ac o gwmpas Llanelwedd ar y safleoedd arferol sy’n hysbysebu’r ddarpariaeth yma.

Mae gennyf anabledd. Oes rhywbeth y dylwn wybod?

Mae’r safle yn gwbl hygyrch ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Os hoffech drafod unrhyw anghenion penodol, cysylltwch â ni fel tîm. Yr ydym yn falch iawn o dderbyn cefnogaeth yr elusen ‘Through the roof’.
E-bost: post@100.cymru

A fydd y dydd yn y Gymraeg neu yn Saesneg?

Mae Cant i Gymru yn fenter ddwyieithog sy’n ceisio anrhydeddu pob rhan o Gymru. O ganlyniad fe fydd yna addoliad dwyieithog a dysgu a gweddïo yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd cyfieithiad hefyd o’r Gymraeg i’r Saesneg drwy’r dydd, a bydd y weinidogaeth i blant hefyd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Nid bod hyn yn waith hawdd, felly gofynnwn ichwi fod yn amyneddgar â ni wrth inni ymdrechu i sylweddoli’r dyhead.

A oes angen imi ddod a bwyd a diod fy hun?

Byddem yn eich annog i ddod ac o leiaf rhywfaint o’ch bwyd a’ch diod gyda chi. Mae yna rai ar y safle fydd yn gwerthu bwyd, ond bydd rhain yn gyfyngedig, a nid ydym am weld neb yn llwgu! Byddwn yn cadarnhau’r opsiynau gwahanol o ran y rhai fydd yn gwerthu bwyd mor fuan ac y bo modd.

Fel arall, mae siopau Burger King, Greggs, Co-op / Asda yn agos iawn at y maes, a siopau eraill yng nghanol y dref.

Beth am y plant?

Bydd gweinidogaeth oed cynradd i blant yn y Gymraeg a’r Saesneg, a bydd hyn yn digwydd mewn adeilad ar wahân ar y maes. Yr ydym yn gobeithio y bydd ein plant wrth eu bodd gyda’u gilydd wrth iddynt gymryd rhan yn y diwrnod, a byddant hwy hefyd yn profi ffydd yn cael ei ennyn yn yr hyn y mae Duw yn ei wneud ar draws Cymru.

Cynhelir y sesiynau rhwng 10.00 a 12.00, rhwng 1.00 a 4.00 a rhwng 4.30 a 6.30 (ffilm).

Cofiwch archebu tocyn plant i rai o dan 11 oed.

--

Yr ydym yn ceisio cynllunio trefnu sesiwn ‘NextGen’ ar gyfer oed uwchradd (11-16) yn ystod o leiaf un o’r sesiynau. Bydd y trefniadau hyn yn cael ei cadarnhau yn ddiweddarach. Cofiwch archebu tocyn ‘oedolyn’ ar gyfer plant oed ysgol uwchradd.

--

Fe fydd crèche ar gyfer plant sy’n 3 oed neu yn iau, ond ni fyddwn wedi trefnu goruchwyliaeth. Yr ydym yn gweithio ar y trefniadau ar gyfer y ddarpariaeth hon. Gadewch inni wybod os y bydd angen y ddarpariaeth yma arnoch. E-bost: post@100.cymru

Pwy sy’n cyfrannu yn y digwyddiad?

Braint fydd cael croesawu David Thomas o Asbury, Kentucky i ddod atom. Bydd Sound of Wales ymhlith arweinwyr addoliad eraill o eglwysi ar draws Cymru, yn arwain addoliad. Bydd cyfraniadau hefyd gan arweinwyr Cant i Gymru ac arweinwyr eraill sy’n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru. Daw mwy o wybodaeth am hyn yn fuan.

Gather25?

Wedi ymrwymo i’r digwyddiad, bu inni ddarganfod bod yna gymanfa fyd- eang yn cyfarfod ar y 1af o Fawrth ‘GATHER25’. Mae’n edrych yn debygol y byddwn yn ymuno â’r digwyddiad hwn mewn rhyw ffordd, ac o ganlyniad, efallai y bydd y cyfan yn cael ei ddarlledu ar draws y byd – eto, cadwch lygad ar wybodaeth bellach fyddwn yn ei rannu am hyn.

Oes angen cymorth arnoch?!

Os gwelwch yn dda!! Byddwn yn creu timoedd i gynorthwyo gyda parcio ceir, croesawu, stiwardio, a thebyg llu o dasgau eraill dros y misoedd nesaf. Os oes gennych awydd bod o gymorth, anfonwch e-bost atom: post@100.cymru