Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Ein Tîm
Criw o gyfeillion yn yr Efengyl, o bob rhan o Gymru a’r byd yw Cant i Gymru, sy’n credu Duw am don newydd o eglwysi yn cael eu plannu dros y degawd nesaf.
Rydym yn griw amrywiol, yn byw ac yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn cynrychioli amryw o rwydweithiau ac enwadau, ond yn rhannu cariad at Iesu, a dyhead cryf i weld Cymru yn troi yn ôl ato, ochr yn ochr ag ymrwymiad dewr i blannu eglwysi newydd.
Y Tim Arwain
BEN A LOIS FRANKS
Gwnaeth Ben a Lois blannu eglwys Hope Rhondda yn 2013. Mae’r eglwys yn cyfarfod mewn siop sydd wedi ei haddasu ar stryd fawr Tonypandy a maent yn gobeithio lansio dwy gynulleidfa newydd yn y 12 mis nesaf. Ochr yn ochr ag arwain y tîm yn Hope, mae Ben yn cadeirio bwrdd cwmni y teulu, tra bod Lois yn rhedeg cwmni marchnata ym Mhontypridd. Mae hi hefyd yn rhan o dîm Tearfund a Llanw.
STEFF A GWENNO MORRIS
Mae Steff a Gwenno wedi plannu Ffynnon, eglwys Gymraeg newydd yn Llandysul, Ceredigion yn 2018. Mae’r ddau hefyd yn arwain gwaith Derwen i Cymrugyfan – rhaglen ddatblygu ar gyfer arweinwyr ifanc ar draws Cymru, gan geisio ysbrydoli ac arfogi arweinwyr sy’n codi ar gyfer gweinidogaethau arloesol.
www.ffynnonllandysul.cymru
@ffynnonllandysul
www.cgww.org/derwenproject
OWEN A CHARLOTTE COTTOM
Mae Owen a Charlotte yn arwain eglwys Grace, Caerdydd, eglwys y gwnaethant ei phlannu yn 2018. Mae eglwys Grace wedi profi daioni rhyfeddol gan yr Arglwydd, a’u bwriad yw plannu ail gynulleidfa eleni. Mae Owen yn cwblhau gradd Meistr mewn Diwinyddiaeth yn Ysgol Ddiwinyddol Union ar hyn o bryd, tra hefyd yn aelod o Cyngor UCCF yng Nghymru.
Arolygaeth a chefnogaeth
Mae tîm arweinyddol Cant i Gymru wedi gofyn i ymddiriedolwyr Waleswide/Cymrugyfan i gefnogi'r fenter newydd hon wrth iddi ddatblygu dros y ddwy flynedd nesaf. Fel rhan o'r gefnogaeth honno, bydd ymddiriedolwyr Cymrugyfan yn darparu atebolrwydd a throsolwg i ni fel tîm yn ogystal â darparu ymbarel weinyddol/elusennol y gallwn weithio drwyddi. Teimlwn ar ein calon bod y baton wedi cael ei basio ymlaen ganddyn nhw ac mae'n fraint i ni i gael eu cefnogaeth, i'n hannog ymlaen ac i roi pob cymorth.
Eglwysi ac eglwysi sy’n cael eu plannu
Fel menter sydd am hyrwyddo plannu eglwysi, nid ein hawydd yw datblygu i fod yn rhwydwaith nac enwad newydd. Ein nod yn syml yw gweithio mewn partneriaeth gydag unrhyw rai sy’n rhannu ein cariad at Iesu, ein dyhead i weld Cymru yn troi yn ôl ato, a’n hymrwymiad i weld eglwysi newydd yn cael eu plannu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rydym yn credu mewn partneriaeth ar sail cymryd rhan. Ystyr hyn i ni yw nad oes yna broses ffurfiol o aelodaeth, ein dymuniad yw gweld eglwysi yn chwarae eu rhan drwy weddïo dros, i ysbrydoli, arfogi, anfon a chefnogi’r rhai sy’n plannu a’u timoedd. Os wyt ti yn arweinydd eglwysig, un o’r ffyrdd gorau i weithio mewn partneriaeth â ni yw drwy ymuno a’r digwyddiadau rydym yn eu trefnu i gryfhau ac annog arweinwyr eglwysig eraill, a’r rhai sy’n plannu eglwysi ar draws Cymru.
Eglwysi sy’n cael eu plannu rydym yn gweithio â hwy
- Eglwys Gateway, St Brides Minor
- Craig Blaenau, Blaenau Ffestiniog
- Angor, Grangetown
- Eglwys Godfirst, Y Bari
- Eglwys Grace Treganna
- Eglwys Hope Sir Benfro
- Eglwys Hope Rhondda – Plannu yn Treorci
- Eglwys Hope Rhondda – Plannu yn Trebanog
Eglwysi rydym mewn partneriaeth â hwy
- Eglwys Hope Rhondda
- Ffynnon, Llandysul
- Eglwys Grace Caerdydd
- Eglwys Grace Porthcawl
- Eglwys Bedyddwyr Ainon, Tongwynlais