Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
Jos Edwards
Mae’r llun yma a gymerwyd gan Jon Putney i mi fel ei fod yn dweud y stori o Fro Ffestiniog a Chymru. Gwnaeth rhywun sylwad ar y llun fod hwn yn lun sydd yn dod a “phopeth sy’n codi’r felan ar y Cymry - y glaw, capeli, tomeni wast, rygbi, cymylau, anobaith - but everyday when I wake up… I thank the Lord I’m Welsh!”
Blaenau Ffestiniog yw’r tref a roddodd dô ar y byd. Prif ddinas llechi y byd - mae’r pentyrrau o lechi dal i fod yma hyd heddiw - am bob tunell o lechi defnyddiol a gynhyrchwyd fe adawyd tua 10 tunell o wastraff ar ochrau’r mynyddoedd!! Mae nhw’n sefyll fel atgof o’r llewyrch oedd unwaith yma. Unwaith roedd 15,000 o bobl yn byw yma - y mwyafrif yn Gymry Cymraeg - a mae’r diwylliant a’r iaith dal i fod yn gryf yma ond bellach oddeutu 5,000 sydd yn byw yn y Fro. Yn sgil effeithiau cyfalfiaeth ôl-ddiwydiannedd teimlai llawer yma fel y pentyrrau o lechi o’u cwmpas - eu bod wedi gadael dros ben ac anghofio amdano.
Mae echdynnu ac anghyfiawnder yn rhan o stori’r Fro - mae yna fath cyfoeth naturiol yma - yma mae’r gorsaf bwer ddŵr cyntaf y D.U sydd bellach yn brolio elw blynyddol o filiynau ond eto ym Mlaenau mae’r tlodi tanwydd gwaethaf yng Nghymru. I lawer yn y Fro mae bywyd yn galed ac i rai yn eithafol o galed wrth i diweithdra a chaethiwed cymryd gafael.
Mae’r capel hefyd yn rhan enfawr o stori’r Fro - yn ei anterth roedd 36 o gapeli yn weithredol yn y Fro. Roedd Tabernacl, sydd bellach ddim yn sefyll, capel mwyaf y Fro yn brolio 500 o blant yn ei Ysgol Sul gyda 50 o athrawon!! Mae hanes ysbrydol anhygoel yma ac yn gyfoethog mewn diwygiadau lleol. Gwelwyd 36 mewn noson yn 1876 ym mhentref Tanygrisiau yn rhoi eu bywydau i Grist, yn Llan Ffestiniog recordwyd fod chwarelwyr wedi gweddio drwy’r nos ac yna mynd i’r gwaith am 5yb cyn orfod peidio a’i gwaith er mwyn gweddio rhagor!! Yn 1904 pan dyrodd y diwygiad roedd fflam dyfn a chryf i’w gael yma. Doedd dim capel digon mawr i ddal y cyfarfodydd ac felly i Neuadd y Farchnad yr aethynt ble roedd lle i 2,500 dal yn byrstio!
Mae’r capeli sy’n sefyll heddiw unai yn wag neu wedi eu ail-bwrpasu fel tai haf a fel le chwarae meddal bellach a phan ai redeg maent yna yn fy atgoffa o’r tân oedd unwaith yma a mor bell o’r dyddiau yna yr ydym. Fel y niwl a welwyd yn y llun mae fel petai fod niwl ysbrydol wedi dod dros Fro ble mae diffyg pwrpas ac anobaith bellach.
OND nid yw’r tân wedi ei ddiffodd. Mae yna adnewyddiad hyfryd wedi bod yn mynd ymlaen yma wrth i’r bobl lleol (gwir cyfoeth y Fro) cymeryd cyfirfoldeb a gweithio a’i gilydd am dyfydol gwell. Bellach mae Bro Ffestiniog yn brolio’r nifer fwyaf o mentrau cymdeithasol y pen na unrhywle arall yng Nghymru - arwydd o’u dygnwch ac haelioni anghymarol sydd i’w phobl!
Y naws yma yw fod y niwl yn codi ac mae arwyddion adnewyddiad ysbrydol hefyd. Mae’r saint ffyddlon sydd wedi byw yma neu wedi bod a chalon am y Fro wedi tywallt eu gweddiau dros y degawdau. Ac fel eglwys newydd ei blannu - Craig Blaenau - yr ydym yn teimlo effeithiau’r dagrau a gweddiau wedi hau.
Gweddiwch i Dduw fendithio’r eglwysi sydd wedi bodoli llawer cyn y ni yma ac iddo parhau i godi gweithwyr oddi fewn a thu allan i ymuno efo ni yn y cynhaeaf enfawr. Gweddiwch iddo fod yn drugarog atom ac i dywallt ei ysbryd wrth i lawer ddod o hyd i’w le saff yn Iesu. Gweddiwch i Dduw ein cynnal ni fel tîm bach a’n defnyddio i drawsffurfio y naratif o anobiath yma. Gweddiwch y bydd y Fro a daw “o’r graig” yn atseinio o addoliad unwaith eto wrth droi “i’r graig “ - Iesu ein Craig yr Oesoedd. Gweddiwch i gras a chyfiawnder llifo fel y moroedd - megis yn y nef felly ym Mro Ffestiniog hefyd!
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Sudden Floods and Slow Growth: Praying for Wales' Spiritual Renewal
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt - Gweddi am Undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Lle o Her a Gobaith
- 4 Hydref 2024O Hedyn Gwyllt i Eglwys sy’n Tyfu
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
- 20 Medi 2024Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
- 6 Medi 2024Ble mae'r dagrau
- 6 Medi 2024Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo
- 6 Medi 2024Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
- 10 Tachwedd 2023Reflections
- 18 Hydref 2023Raising an Army of Ordinary Intercessors (pt.3)
12