Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Ychydig o Helynt
Owen Cottom
Ym 1858, roedd dyn ifanc yn dychwelyd i'w famwlad arôl cyfnod byr yn yr Unol Daleithiau. Nid hiraeth yn unigoedd yn ysgogi hynny. Fe ddaeth adref gydag angerddffyrnig dros ddiwygiad yn ei Gymru enedigol. Yn ystodei gyfnod yn Efrog Newydd, roedd wedi bod yn rhan o ddeffroad lleol, ac yn awr yr oedd olion y tân hynny ynfyw ynddo ef. Ei enw oedd Humphrey Jones. Mae hanesyn cyfeirio ato fel unigolyn tanllyd a ffyrnig oedd ynangerddol a beiddgar, Methodist Wesleaidd ar lun John Wesley ei hun.
Ar yr un pryd, mewn eglwys fechan ym mhentref Ysbyty Ystwyth, roedd gweinidog hŷn wedi profi deffroad bachei hun. Wedi'i sbarduno gan atgofion am waith adfywioDuw yn y gorffennol (yn enwedig gyda’r MethodistiaidCalfinaidd, ei enwad ei hun), penderfynodd alw eigynulleidfa ei hun i gredu bod hyn yn bosib eto. RoeddIesu yn dal yn fyw, roedd yr Ysbryd yn dal ar waith, roedd adfywiad yn bosibl ... yma, yn awr.
Dau ddyn. Un galon am i Dduw symud. Ond nid oedd hwn yn bartneriaeth syml ar y dechrau. Pe bai Humphrey Jones a Dafydd Morgan wedi ceisio cytuno ar ddiffiniadcyffredin o ddiwygiad mae'n debyg y byddent wedi caeldadl ffyrnig. Roedden nhw'n dod o wahanol gefndiroeddeglwysig, safbwyntiau diwinyddol gwahanol a gwahanol genedlaethau a gwahanol gyd-destunau.
Pan wnaethant gyfarfod ym Mhontrhydygroes, lle'r oedd Humphrey Jones yn pregethu a Dafydd Morgan ynbresennol, gallent fod wedi cyfnewid cyfarchion a gadaelar lwybrau gwahanol. Ond roedd Morgan wedi eiddwysbigo gan angerdd amlwg Jones fel yr aeth ato a chodi’r syniad o weithio gyda'i gilydd. Roedd Morgan ynamlwg yn nerfus. Ond wrth i Jones gynghori’r sant hŷnhwn, ildiodd Morgan ei ofnau a phenderfynodd fod y budd posib o gydweithio yn fwy na'r gost bosib. Fe ddaeth ei ildio ef, ynghyd ag ymateb Jones yn arwyddairbychan i mi yn ystod y dyddiau diwethaf.
Morgan: "Ni all fod unrhyw ddrwg i ni geisio deffroeglwysi'r rhanbarth hwn; Rwy'n barod i wneud fy ngorau. Ychydig o helynt y medrwn ei wneud trwy gynnalcyfarfodydd gweddi, er na ddylai fod dim mwy na dyn yny cyfan."
Jones: "Gwnewch chi hynny ac fe wnaf warantu y byddDuw gyda chi yn fuan iawn"
Mae'r gweddill yn gyfarwydd. Arweiniodd 'ychydig o helynt' y ddau ddyn hyn ac eraill at ddiwygiad 1859, a ledodd trwy Gymru gydag arwyddion hardd o eglwysiwedi eu deffro mewn gweddi, credinwyr wedi ei huno ynyr efengyl a chymunedau gafodd eu trawsnewid ganlawer o dröedigaethau. A beth oedd wrth wraidd y cyfan? Beth oedd y wreichionen a daniodd y fflam oedd iledaenu? Undod.
Mae'r Ysgrythur yn gwbl eglur bod Duw yn bendithioundod (Salm 133). Felly, os ydyn ni eisiau bendith Duwyng Nghymru heddiw mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i weithio a gweddïo dros undod yn yr efengyl rhwng ein heglwysi ac yn ein heglwysi. Pan fyddwn yn gweddïo am undod rydym yn ymuno mewngweddi gyda'n Gwaredwr Ei Hun (Ioan 17). Pan Rydymyn gweddïo am undod rydym yn ymuno mewn gweddi ardraws yr oesoedd gydag arwyr y ffydd fel Humphrey Jones a Dafydd Morgan.
Felly, dewch i ni weddïo dros undod.
Gweddïwch dros undod ar lefel fechan mewn eglwysiwedi eu plannu. Mae'r gelyn wrth ei fodd yn haurhaniadau ymhlith pobl Dduw a gall hyn fod yn arbennigo amlwg mewn cyd-destunau arloesol. Gweddïwch y bydd timau yn profi ymdeimlad dwfn o fod o 'un meddwlac un galon' (Philipiaid 2: 1-2) ac i gynulleidfaoedd gaeleu clymu ynghyd yng nghariad Crist (Colosiaid 3: 14).
Gweddïwch am undod ar lefel fwy ledled Cymru. Un o'rpethau mwyaf cyffrous yr ydym wedi'i weld ers lansio'rfenter hon yw'r awch newydd i gydweithio dros yr efengyl. Gweddïwch y bydd yr awydd hwn yn cael eigynnal ac yn cynyddu’n fflam. Gweddïwch am undod yneich pentref, tref neu ddinas. Gweddïwch y bydd gweddiIesu yn cael ei ateb yn yr Eglwys ar draws Cymru heddiw; fel y byddom yn un, ac i'r byd gael cipolwg arein Gwaredwr trwy ein holl undod (Ioan 17:21-24).
Wrth i ni weddïo fel hyn, rwy’n gwarantu y bydd Duwgyda ni yn fuan iawn.
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Sudden Floods and Slow Growth: Praying for Wales' Spiritual Renewal
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt - Gweddi am Undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Lle o Her a Gobaith
- 4 Hydref 2024O Hedyn Gwyllt i Eglwys sy’n Tyfu
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
- 20 Medi 2024Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
- 6 Medi 2024Ble mae'r dagrau
- 6 Medi 2024Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo
- 6 Medi 2024Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
- 10 Tachwedd 2023Reflections
- 18 Hydref 2023Raising an Army of Ordinary Intercessors (pt.3)
12