Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Blaenau Gwent
Brian Hayward
Wedi ei leoli yn Ne Cymru, mae Blaenau Gwent yn sir gyfoethog o ran ei hanes, ac eto wedi ei chreithio gan heriau byd ôl-ddiwydiannol. Mae’r ardal oedd gynt yn ffynnu drwy gynhyrchu haearn, dur a glo, bellach yn cael ei ddiffinio gan gymoedd uchel a chymunedau clos, pob un ohonynt ag hunaniaeth unigryw. Mae’r prif drefi – Abertyleri, Brynmawr, Glyn Ebwy a Tredegar (man geni Aneurin Bevan, sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol) – wedi wynebu newid sylweddol, ac er na ellir amau cymeriad y bobl, y mae’r heriau’n sylweddol.
O ganlyniad i’r dirywiad yn y diwydiannau lleol oedd yn esgor ar ffyniant economaidd, bellach mae yna greithiau dwfn. Mae tlodi, salwch tymor-hir a diweithdra yn parhau yn amlwg, a chenedlaethau yn ymdrechu i godi allan o gyfyngiadau eu hamgylchiadau. Mae’r ardal yn brwydro yn erbyn pethau fel iechyd meddwl ac iechyd corfforol gwael, dibyniaeth a’r ymdeimlad o anobaith, ffactorau anodd i dorri eu gafael. Er bod y nifer mewn gwaith wedi cynyddu ychydig yn ddiweddar, yn aml mae’r swyddi newydd yn rai ansicr, a prin yw disgwyliad y bobl ifanc am symud i addysg uwch.
Eto, ar waethaf yr anawsterau mae’r Cymoedd yn fwy gwyrddlas nag yn ystod cyfnod pan oedd diwydiant yn ei anterth. Mae’r afonydd oedd gynt wedi eu llygru yn rhedeg yn glir, mae pysgod lle’r oedd ffatrïoedd, a ni ellir gwadu harddwch naturiol yr ardal. Er, digalon yw clywed pobl leol yn disgrifio eu hardal fel ‘twll’, a hwythau yn methu gweld yr harddwch sy’n amlwg yno.
Mae daearyddiaeth Blaenau Gwent — gyda’r dyffrynnoedd troellog a phentrefi gwasgaredig – yn creu rhwymau cryf mewn cymuned, ond yn medru arwain hefyd at deimlad ynysig. Tra bod y bobl yn gyffredinol gyfeillgar, nid yw bob amser yn dasg hawdd i dorri mewn i gylchoedd o berthynas tynn o deuluoedd a ffrindiau sydd wedi eu meithrin dros genedlaethau. Er hynny, yn ystod y blynyddoedd, a hynny yn sgil mewnlifiad o drigolion newydd, yn arbennig rhai o Ddwyrain Ewrop ac o Nigeria, daeth deinameg newydd i’r ardal. I rai eglwysi lleol, mae’r newid hwn wedi bod yn fendith go iawn, gan anadlu ynni newydd i mewn i gynulleidfaoedd. Perthyn i’r ardal wreiddiau ysbrydol dwfn, gyda hanes sydd wedi ei drochi gan anghydffurfiaeth ers dyddiau cynharaf Cristnogaeth yng Nghymru. Profwyd effeithiau diwygiadau’r 18fed a’r 20fed ganrif, er nad yw’n wir i bob un o’r eglwysi gael eu heffeithio gan ddiwygiad 1904-05. Bellach, mae nifer y rhai sy’n mynychu eglwysi yn isel, gyda’r rhan fwyaf o gynulleidfaoedd yn ddim mwy na 20 i 25 o bobl. Wedi dweud hynny, mae eglwysi lleol yn ddigon gweithgar wrth gyfarfod ag anghenion ymarferol eu cymunedau, gan fod â rhan mewn banciau bwyd, prosiectau dillad, a mwy.
Drwy’r cwbl, mae yna arwydd o obaith ysbrydol yn y rhanbarth. Tystiodd ambell eglwys i bobl yn dychwelyd at y ffydd, ac adroddwyd am lond llaw o bobl yn dod i iachawdwriaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ddiddorol iawn, mae yna ryw chwilfrydedd ysbrydol newydd, yn arbennig ymhlith ieuenctid, gyda rhai yn dangos diddordeb o’r newydd mewn darllen y Beibl. Mae’r ardal yn un sydd â gwir angen am adfywiad ysbrydol a materol, ond mae arwyddion fod Duw ar waith.
Wrth inni ystyried sut i weddïo dros Blaenau Gwent, dyma gerdd rymus ysgrifennwyd gan un o arweinwyr yr eglwys yn lleol, ac yntau yn adlewyrchu ar dref Abertyleri:
Town of Black Gold
Town of black gold, you thrived on industry
And kept me central in your ways
Now I am on the margins of your town,
You are on the margins of your nation
But put away your human gold
Dig deeper than the open casts
To the Kingdom soil, down deep.
On knees of prayer is your glory.
Town of black gold.
Testunau Gweddi:
1. Llygaid at y mynyddoedd – Gweddïwch y bydd y bobl yn cychwyn codi eu llygaid a chydnabod harddwch naturiol eu hardal, a bydd hyn yn arwain eu calonnau at y Creawdwr.
2. Hyder yn yr Efengyl – Gweddïwch y bydd yr eglwysi yn lleol yn ail-ddarganfod hyder wrth gyhoeddi’n hyderus Efengyl Iesu Grist.
3. Chwilfrydedd Ysbrydol – Gweddïwch y bydd y diddordeb cynyddol yn y Beibl acysbrydolrwydd, yn arbennig ymhlith ieuenctid, yn parhau i dyfu a dwyn ffrwyth.
4. Pobl newydd i Blannu Eglwysi – Gweddïwch y bydd pobl newydd, sydd wedi eu galw i blannu eglwysi yn cael eu galw i’r ardal hon, ac y byddant yn barod i sefyll ysgwydd wrth ysgwyd gyda’r rhai sydd wedi gwasanaethu’n ffyddlon am flynyddoedd, yn aml heb weld ffrwyth gweladwy.
5. Gweddi Unedig – Gweddïwch am symudiad gweddi ymhlith credinwyr yn lleol, y byddant yn dod ynghyd i weddïo dros eu cymunedau, gan geisio Duw am ddiwygiad ac iachâd.
Wrth inni ddyrchafu’r gweddïau hyn, yr ydym yn gofyn i Dduw i ‘wrando o’r nefoedd ac iachau y tir’, gan adnewyddu Blaenau Gwent trwy ei ras a’i rym. Mae llawer i’w gyflawni, ond fe gredwn, yn amser Duw, cawn dystio i drawsffurfio yn y Cymoedd hyn.
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Sudden Floods and Slow Growth: Praying for Wales' Spiritual Renewal
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt - Gweddi am Undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Lle o Her a Gobaith
- 4 Hydref 2024O Hedyn Gwyllt i Eglwys sy’n Tyfu
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
- 20 Medi 2024Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
- 6 Medi 2024Ble mae'r dagrau
- 6 Medi 2024Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo
- 6 Medi 2024Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
- 10 Tachwedd 2023Reflections
- 18 Hydref 2023Raising an Army of Ordinary Intercessors (pt.3)
12