Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Capel Goleudy Môn
Rachel Radbourne
Mae gan Ynys Môn, yng Ngogledd Orllewin Cymru hefyd lysenw, ‘Môn Mam Cymru’ oherwydd ei thir ffrwythlon a’i chynnyrch grawn toreithiog. Cyfeiriwyd at yr ynys fel ‘Basged Fara Cymru’ gyda’i melinau niferus yn cael eu defnyddio i falu grawn a phwmpio dŵr i gyflenwi bwyd i’r genedl diolch i’w phridd ffrwythlon. Enw arall Ynys Môn yw ‘Gwlad y Medra’, sy’n adlewyrchu diwylliant yr ynys, gan gofleidio’r ffaith ei bod yn ynys wedi’i gwahanu oddi wrth y tir mawr, yn annibynnol ac unigryw yn ei natur.
Mae gan Ynys Môn hanes ysbrydol cryf gyda’r mae’r ynys wedi gweld llawer o ddeffroad ysbrydol mewn pentrefi a threfi dros y canrifoedd diwethaf, megis diwygiad 1776 yn Aberffraw, diwygiad 1822 ym Methel a derbyniodd bregethu a gweinidogaeth 3 phregethwr mawr o 3 enwad gwahanol; gweinidog y Bedyddwyr Christmas Evans, y pregethwr Methodistaidd John Elias a’r gweinidog Annibynnol William Griffith a fu oll yn gweinidogaethu, yn gwasanaethu ac yn plannu eglwysi ar yr ynys yn ystod y 19eg ganrif.
Fodd bynnag, mae hanes ysbrydol Ynys Môn hefyd wedi bod yn gysylltiedig ers tro â derwyddiaeth, a gelwir Môn yn ynys gysegredig y Derwyddon Prydeinig. Mae llawer o henebion megalithig ar yr ynys y credir eu bod yn demlau ac allorau aberthol derwyddon, felly, mae dylanwad derwyddiaeth yn dal yn fawr ar yr ynys heddiw. Mae’n sicr bod llawer o bobl ar yr ynys yn agored yn ysbrydol, gyda nosweithiau seicig yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws Môn.
Bellach yn 2024, mae Ynys Môn mewn sefyllfa debyg i lawer o Gymru gyda llawer o eglwysi’n cau, yn cael eu gwerthu i fod yn gartrefi neu’n llety gwyliau a thensiynau’n codi rhwng y gwahanol grwpiau o bobl sy’n galw Ynys Môn yn gartref.
Plannwyd Capel Goleudy Môn 6 mlynedd yn ôl, yn ymgasglu yng nghanol yr ynys, ond hefyd bellach gyda 7 Grŵp Bach yn cyfarfod ar draws yr ynys o Lanfairpwll (y pentref â’r enw hir iawn!) yn ne’r ynys, i Foelfre yn y Gogledd Ddwyrain, i Langristiolus yn y canol hyd at Pencarnisiog ar yr ochr Orllewinol, pob un gyda rhwng 6 - 12 o bobl yn cyfarfod yn rheolaidd, gan ddilyn Iesu, ei air a'i Ysbryd gyda’r gilydd, yn cefnogi ac annog ei gilydd yn ei ffydd. Mae’n eglwys gyda gweledigaeth i Ddilyn Iesu, Adeiladu Cymuned a Charu Môn. Rydym yn ymgynnull yn wythnosol yng Ngaerwen, lle rydym bellach yn gweld 80 o oedolion a phlant yn ymgasglu bob wythnos ar gyfer addoli a dysgu o’r gair. Rydym hefyd yn cynnal grŵp babis a phlant ifanc yn wythnosol yng Ngaerwen a chlwb gwyliau mewn ysgol leol yn Llangefni, yn bwydo teuluoedd mewn angen a rhannu'r efengyl. Rydym yn ceisio dilyn Iesu gyda’n gilydd fel teulu Cristnogol o Gymry Cymraeg, Cymru di-Gymraeg a Saeson sydd wedi symud i’r ynys. Mae hyn yn golygu dysgu gyda’n gilydd sut i ofalu am ein gilydd, a dangos parch ac anrhydeddu i’n gilydd (Rhufeiniaid 12:10) mewn cymuned â gwahanol ieithoedd, diwylliannau a chefndiroedd, trwy gadw ein llygaid ar Iesu, awdur a pherffeithydd ein ffydd.
Eleni rydym wedi gweld llawer o rieni yn dod i adnabod Iesu trwy’r grŵp rhieni a phlant bach rydym yn ei redeg, y clwb cinio gwyliau ysgol rydym yn ei ddarparu a thrwy gyfeillgarwch wrth giatiau’r ysgol. Mae mor galonogol a chyffrous i weld yr Ysbryd Glan yn symud yn ein cymunedau, gan agor calonnau i dderbyn yr efengyl. Mae hi’n fraint a her ceisio dysgu a chefnogi'r rhai sy’n newydd yn eu ffydd, tyfu fel disgyblion Crist mewn cymdeithas seciwlar. Rydym yn parhau i ymddiried yn Nuw i ddarparu gofod ein hun er mwyn ni ymgynnull ac i wasanaethu’r gymuned ohoni.
Yr ydym yn synhwyro fod Duw yn galw Ynys Môn unwaith eto i fod yn ‘Môn Mam Cymru’ - ‘Gwlad y Medra’, wrth i ni ddewis camu i fyny i fod yn famau a thadau ysbrydol i’r rhai sy’n chwilio am y gwirionedd ac yn agored i groesawu presenoldeb ac arweiniad yr Ysbryd Glân yn eu bywydau. Rydym hefyd yn gweddïo ac yn gweithio’n galed i godi pontydd ysbrydol, i gymodi pobl â Christ a gyda’i gilydd wrth i ni geisio gyntaf ei Deyrnas, yma ar Ynys Môn fel y mae yn y Nefoedd.
Pwyntiau Gweddi:
- I fwy o Grwpiau Bach gael eu plannu ar draws yr ynys fel mannau gweddi, disgyblaeth a chymuned.
- Er mwyn i Dduw barhau i symud ymysg un o’r ysgolion cynradd lleol, lle mae 3 theulu wedi dechrau dilyn Iesu trwy rieni Cristnogol o Capel Goleudy yn rhannu’r efengyl gyda’i ffrindiau.
- Dewrder ac addfwynder i adeiladu pontydd a cheisio annog undod rhwng y gwahanol ddiwylliannau ac ieithoedd o fewn a thu allan i’r eglwys ar yr ynys a dros o bont.
- Rydyn ni'n gweld llawer o blant yn dod i'n hoedfa fore Sul ac yn dod â'u teuluoedd. Felly gweddïwn am adnoddau i gefnogi a chyfarparu neu i weithio gyda phlant a phobl ifanc.
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Sudden Floods and Slow Growth: Praying for Wales' Spiritual Renewal
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt - Gweddi am Undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Lle o Her a Gobaith
- 4 Hydref 2024O Hedyn Gwyllt i Eglwys sy’n Tyfu
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
- 20 Medi 2024Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
- 6 Medi 2024Ble mae'r dagrau
- 6 Medi 2024Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo
- 6 Medi 2024Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
- 10 Tachwedd 2023Reflections
- 18 Hydref 2023Raising an Army of Ordinary Intercessors (pt.3)
12