Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.

Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Torfaen
James Richards
Mae gwreiddiau Cristnogol Torfaen wedi'u plethu'n ddwfn â threftadaeth ddiwydiannol Cymoedd De Cymru. O ddechreuadau canoloesol eglwysi fel Eglwys Sant Mihangel yn Llantarnam, i dyfiant bywiog capeli y 19eg a'r 20fed ganrif, mae ffydd Gristnogol wedi bod yn rhan o stori'r Cymoedd ers tro byd.
Daeth y chwyldro diwydiannol â mewnlifiad enfawr o bobl i'r ardal, yn enwedig i drefi fel Pont-y-pŵl a Chwmbrân, wrth iddynt chwilio am gyflogaeth yn y gweithfeydd haearn a'r pyllau glo. Gwelodd y cyfnod hwn ffrwydrad mewn capeli anghydffurfiol, fel eglwysi Bedyddwyr, Methodistiaid ac Annibynwyr. Nid lle addoli yn unig oedd y capeli hyn; nhw oedd calon y gymuned, yn darparu cefnogaeth economaidd, addysg, a chanolbwynt moesol i boblogaeth a oedd yn tyfu'n gyflym. Nhw oedd curiad calon ysbrydol y Cwm – yn dylanwadu ar bob agwedd o fywyd.
Heddiw, mae llawer o'r capeli hyn yn dal i sefyll, rhai yn dal i fod yn addoldai, tra bod eraill wedi cael eu hail-bwrpasu. Maent yn sefyll fel tyst i gyfnod pan oedd yr eglwys yn ffynnu, a phan oedd Newyddion Da Iesu yn cael ei gyhoeddi gyda brwdfrydedd ac argyhoeddiad.
Erbyn heddiw, mae tirwedd ysbrydol Torfaen yn debyg iawn i weddill y DU. Mae meinciau a oedd unwaith yn llawn bellach yn wag ac addolwyr yn brin. Mae'r ymdeimlad o gymuned a ddaw o’r capeli wedi pylu i raddau helaeth mewn sawl man. Er gwaethaf hyn, mae Ysbryd Duw yn dal i weithio'n ffyddlon trwy gynulleidfaoedd ar draws yr ardal. Gwelwn obaith - eglwysi yn pregethu'r Efengyl ac yn ymrwymo i wasanaethu eu cymunedau drwy gariad Iesu. Cristnogion sy'n gweddïo am weld Duw yn symud o’r newydd a’r genhedlaeth nesaf yn sychedu Iesu.
Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn Nhorfaen wedi cilio o'r eglwys. Mae yna ymdeimlad o ddifaterwch tuag at grefydd gyfundrefnol, ac yn aml caiff y ffydd Gristnogol ei hystyried yn grair sy’n perthyn i'r gorffennol. Mewn sawl ystyr mae "esgyrn" dylanwad yr eglwys yno—yr adeiladau, yr hanes, y cof diwylliannol—ond maent yn aml yn sych, heb fywyd. Dyffryn o esgyrn sychion.
Yn 2007, arweiniodd Duw Dai a Michelle Hankey i blannu eglwys ar ystâd gyngor o'r enw Trefethin yn Nhorfaen ac yn 2008, symudais i a'm gwraig Naomi i Dorfaen i helpu i wasanaethu yn yr eglwys ifanc 'Hill City Church'. 17 mlynedd yn ddiweddarach, mae Duw wedi gwneud yn llawer mwy na gallem ei ofyn na'i ddychmygu. Yn union fel ym mhennod 37 o Eseciel, mae Duw yn anadlu bywyd i'r lleoedd mwyaf diffaith. Mae'n plannu gardd yng nghanol yr anialwch. Mae'n ysgwyd esgyrn yn y dyffryn. Mae'n codi'r genhedlaeth nesaf i wybod Ei ffyrdd ac i ymddiried Ynddo. Gweddïwch y bydd Duw yn parhau i wneud yr hyn na all ond Ef ei wneud, sef dod â'r esgyrn sychion yn fyw.
Gweddiwch dros Dorfaen:
Bod Duw yn dod â bywyd newydd i esgyrn sychion.
Gofynnodd Duw gwestiwn heriol i Eseciel. ‘A all yr esgyrn hyn fyw?’. Gadewch i ni ateb gyda ‘Gallant Arglwydd – trwy Dy nerth, trwy Dy air, yng ngrym Dy Ysbryd Glân’! Gweddïwch am ffydd i’r eglwys gredu y bydd Duw yn cyflawni ei Air, ac mae Ef yw Rhoddwr Bywyd, yr Un sy’n atgyfodi’r meirw i fywyd.
Bod Gair Duw yn cael ei gyhoeddi yn hŷ.
Proffwydodd Eseciel i'r esgyrn sychion, ac wrth iddo siarad, clywodd sŵn ratlo a chrynu. Dyma bŵer Gair Duw – y pŵer i ddod â bywyd newydd. Gweddïwch y byddai Duw yn codi pregethwyr hŷ a ffyddlon yn Nhorfaen a fydd yn cyhoeddi'r Efengyl fod Iesu wedi marw dros bechaduriaid i gael eu gwneud yn greadigaethau newydd, ei fod wedi'i atgyfodi o'r meirw a'i fod yn dychwelyd eto'n fuan. A'u bod yn gwneud hynny â phwer ac eglurder. Gofynnwn am syched newydd am Air Duw ymhlith credinwyr a datguddiad ffres o'i wirionedd. Bydded i sŵn Ei Air ysgwyd y Cwm, gan ddeffro calonnau'r rhai sydd wedi marw'n ysbrydol i ddod o hyd i fywyd yn yr Arglwydd Iesu Grist.
Undod yn Nghrist.
Wrth i Eseciel lefaru'r Gair, dechreuodd yr esgyrn ddod at ei gilydd a ffurfio gewynnau a chnawd. Gweddïwch am adferiad a chryfhad I'r eglwysi lleol yn Nhorfaen. Gweddïwch am undod ymhlith gwahanol enwadau a chynulleidfaoedd. Bydded i'r Arglwydd ddod â phobl newydd, arweinwyr newydd, ac adnoddau newydd i adeiladu corff Crist. Gweddïwch am eglwysi iach sydd wedi'u cyfarparu i wasanaethu eu cymunedau a chreu disgyblion newydd.
Byddwch yn llawn o’r Ysbryd Glân.
Roedd yr esgyrn bellach yn gorff cyflawn, ond doedd dim bywyd. Dywdodd Duw wrth Eseciel am broffwydo i'r anadl, a phan wnaeth, aeth yr anadl i mewn iddynt, a daethant yn fyw. Gweddïwch y byddai'r Ysbryd Glân yn anadlu bywyd newydd i bob cynulleidfa, gan lenwi credinwyr â'i bŵer, ei angerdd a'i bwrpas. Gweddïwch y byddai'r Ysbryd Glân yn argyhoeddi o bechod ac yn denu'r coll at Iesu Grist.
Sefwch fel byddin fawr.
Tröwyd yr esgyrn gwasgaredig a fu unwaith yn farw yn fyddin fawr. Gweddïwch na fyddai’r eglwys yn Nhorfaen yn bodloni ar fodoli’n unig ond y byddai’n troi yn fyddin fawr dros Deyrnas Dduw. Byddin nad yw’n dod â dinistr, ond sy’n cyhoeddi bywyd yn Iesu Grist. Byddin sydd am weld cariad yn teyrnasu. Gweddïwch ar i gredinwyr fod yn dystion dewr, i sefyll yn gadarn yn eu ffydd, ac i fod yn rym gweladwy er daioni yn eu cymunedau. Gweddïwch y byddai’r eglwys yn Nhorfaen yn codi ac yn cymryd ei lle fel dinas ar fryn, gan ddisgleirio golau a chariad Iesu i bob cornel o’r Cwm.
O Dad Nefol, Ti yw'r Duw sy'n dod â bywyd allan o farwolaeth. Gofynnwn i ti wneud hynny eto. Llefara dy Air, anadla dy Ysbryd, a chod dy eglwys i fod yn fyddin er dy ogoniant. Yn enw nerthol Iesu, Amen.
- 3 Medi 2025Torfaen
- 7 Mai 2025Diweddariad ar waith Rhwyd y Brenin
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Sudden Floods and Slow Growth: Praying for Wales' Spiritual Renewal
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt - Gweddi am Undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Lle o Her a Gobaith
- 4 Hydref 2024O Hedyn Gwyllt i Eglwys sy’n Tyfu
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
- 20 Medi 2024Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
- 6 Medi 2024Ble mae'r dagrau
- 6 Medi 2024Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo
- 6 Medi 2024Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
12