Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Freedom Church Porth
Fe symudon ni (Stephen a Lisa) i’r Cymoedd o Gaerdydd yn ôl yn 2022 gyda’n dau o blant. Gwyddom fod Duw yn ein galw, rhywbeth gadarnhawyd gan amryw, felly dyma symud i Donyrefail i gefnogi cangen allan o'n heglwys, Freedom Church. Ar ôl treulio peth amser yno fe wnaeth Duw ein harwain yn glir i gychwyn heglwys ein hunain yn ein cartref newydd yn y Porth sydd ond dros y mynydd.
Ac felly fe ddechreuon ni gyfarfod fel Freedom Church Porth yn ein tŷ ni ym mis Ionawr eleni, dim ond dau fis cyn i’n trydydd plentyn gyrraedd.
Yn y misoedd canlynol fe dreulion ni amser yn adeiladu cymuned a buddsoddi yn nheulu’r eglwys a ddarparodd Duw. Wrth weld y ffrwyth anhygoel a bywydau y rhai yr ydym yn byw gyda hwy yn cael eu newid, cawsom weledigaeth i ehangu, felly ym mis Medi symudom i leoliad yr oedd Duw yn amlwg yn ein harwain ato.
Rydym nawr yn cyfarfod yn The Welsh Hills Works yn y Porth, a adnabyddir yn lleol fel Y Ffatri Bop. Rydyn ni'n llogi un o'r ystafelloedd llai gyda'r weledigaeth i dyfu ac yn y pen draw symud i'r ystafell digwyddiadau mawr. Rydym hefyd yn cynnal astudiaeth Feiblaidd wythnosol a chyfarfod gweddi, yn ogystal â noson menywod a dynion bob mis. Mae pob un ohonynt yn helpu i adeiladu undod ac yn ein harfogi â gwybodaeth yn ogystal â dyfnhau ein ffydd.
Mae Eglwys Freedom Porth yn awyddus i weld mwy o bobl yn ymuno â’r teulu i brofi perthynas â’r Iesu sy’n newid bywyd, ac i weld y Porth a’r ardaloedd cyfagos yn cael eu trawsnewid.
Yr ydym yn argyhoeddedig ein bod ar ddechrau symudiad o eiddo Duw ac mae wedi ein cyffroi’n fawr gyda gweledigaeth ar gyfer cymoedd y Rhondda yn gyffredinol. Yr ydym am weld mwy o eglwysi yn cael eu plannu ar hyd y Cymoedd, rhywbeth sy’n cytuno â nifer o eiriau proffwydol a lefarwyd dros ein heglwys yng Nghaerdydd.
Credwn yn yr Ysbryd Glân a bod doniau’r Ysbryd yn chwarae rhan fawr wrth adeiladu teyrnas Dduw a’n harfogi fel Cristnogion.
Pwyntiau gweddi
- Yr ydym am weld ein pobl yn profi iachawdwriaeth ac adferiad ym mhob agwedd o’u bywydau. Y byddant yn gweld eu pobl yn cael eu gwared yn llawn, yn ffrwythlon ac yn gynhyrchiol ym mhob rhan o'u bywydau. O gyllid, i iechyd, i berthynas, ac i gymod gyda’u teuluoedd.
- Y bydd Duw yn sianelu peth o adnodd ei deyrnas inni, ac wrth inni weld pobl newydd yn dod trwy ein drysau y byddwn wedi ein paratoi a’n harfogi’n well i dderbyn a chroesawu’r cynhaeaf.
- Yr ydym yn dyheu am weld cynnydd mewn arwyddion a rhyfeddodau, y gallu gwyrthiol y mae Duw yn ei addo yn Ei air.
- 7 Tachwedd 2025Powys
- 7 Tachwedd 2025Hanes Plannu - Cross Hands
- 7 Tachwedd 2025Noson Weddi Gen-Z yn y Bala
- 29 Hydref 2025Revival & The Unity of the Church
- 3 Medi 2025Torfaen
- 7 Mai 2025Diweddariad ar waith Rhwyd y Brenin
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Llifogydd Sydyn a Thyfiant Araf
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt – gweddi am undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Blaenau Gwent
- 4 Hydref 2024Eglwys Hope Sir Benfro
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Sir Gâr
12
