Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
From Wild Seedling to Growing Community
William Barr
Bellach mae Eglwys Hope Sir Benfro dros flwydd oed, a dechreuodd y cyfan mewn ffordd oedd yn debycach i hedyn gwyllt nag eglwys oedd wedi ei meithrin yn ofalus. Beth tybed yw ystyr hynny? Wel, doedd yna ddim eglwys swyddogol wedi ein hanfon ac yn ein cefnogi. Yn hytrach, ganwyd yr eglwys o angen gwirioneddol ar Benrhyn Tyddewi, wrth i’r gymuned leol wynebu ar heriau gwirioneddol o fewn i’r eglwys Anglicanaidd yno. Mae ein harweinwyr bellach yn ddau gwpl gyda theulu ifanc, Meddygon Teulu sydd yn gweithio yn yr ardal ac yn byw yma.
Digon tlawd oedd cychwyniadau Eglwys Hope. Cychwynnwyd y gwaith drwy sefydlu Ysgol Sul mewn neuadd bentref yn ystod y cyfnod clo, gyda’r syniad y gellid cynnig rhywbeth ar gyfer y mamau oedd yn dod a’u plant – ychydig o addoliad i oedolion ac astudiaeth Feiblaidd. Ond, fel sy’n wir yn aml, roedd gan Dduw gynlluniau mwy ar ein cyfer.
Blwyddyn yn ddiweddarach, bellach yr ydym yn cyfarfod gyda thua 50 o bobl bob bore Sul! Mae wedi bod yn siwrne o orfoledd, ac eto, o bryd i’w gilydd, braidd yn llethol. Byddwn yn cyfarfod yn neuadd bentref Mathri am 10 yn bob dydd Sul, gan weithio’n ffordd drwy Lyfr yr Actau gyda’n gilydd. Mae gweinidogaeth i blant ar wahân, ac yn fisol ceir oedfa pob oed sy’n dod a phawb at ei gilydd. Mae’r hyn gychwynnodd yn ymdrech fechan bellach wedi blodeuo i fod yn gymuned fyrlymus. Yr ydym hefyd wedi cychwyn cyfarfodydd yn yr wythnos, brecwast i ddynion a hyd yn oed grŵp merched dan yr enw “Purls and Pints” (gwau yn y dafarn – chi wedi darllen yn gywir!).
Ond gyda’r twf fe ddaw heriau. Yr ydym yn eglwys ifanc sy’n wynebu penderfyniadau pwysig. Dyma ambell faes lle y byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth mewn gweddi:
1. Arweinyddiaeth – Oherwydd ein bod wedi cychwyn mewn ffordd oedd yn hynod organaidd, nid ydym eto wedi apwyntio tîm arweinyddiaeth nac arweinydd i’r eglwys. Gweddïwch am ddoethineb wrth inni geisio dewis henuriaid ac arweinydd fydd yn medru cynorthwyo i’n tywys ymlaen.
2. Undod – Gyda’r fath amrediad o safbwyntiau diwinyddol o fewn y gynulleidfa, yr ydym yn ceisio diogelu undod drwy’r cariad yr ydym yn ei rannu at Iesu Grist. Gweddïwch am ras a chyd-ddealltwriaeth wrth inni geisio symud ymlaen gyda’r gwahaniaethau. Yn ychwanegol, yr ydym yn awyddus i adeiladu pontydd at yr eglwysi a’r capeli yn ein hardal – gweddïwch y bydd y cysylltiadau hyn yn ffynnu.
3. Ymestyn allan – Fel arweinwyr, byddwn yn aml yn teimlo ein bod yn cael ein hymestyn y tu hwnt i’n gallu, mae hyd yn oed diogelu oedfaon y Sul ochr yn ochr â’n swyddi a’n cyfrifoldebau o fewn ein teuluoedd. Yr ydym yn angerddol yn ein hawydd i wneud mwy yn ein cymuned, ond mae angen mwy o weithwyr arnom. Gweddïwch y bydd eraill yn dod i’r fei gan ein cynorthwyo i dyfu mewn ffordd gynaliadwy. A hynny bob amser yn amser Duw a thrwy ei nerth Ef.
Yn y bôn, ein gweddi yw y bydd enw Duw yn cael ei sancteiddio yn ein bywydau, yn ein heglwys, yn ein cymuned, ac ar draws Cymru!
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Sudden Floods and Slow Growth: Praying for Wales' Spiritual Renewal
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt - Gweddi am Undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Lle o Her a Gobaith
- 4 Hydref 2024O Hedyn Gwyllt i Eglwys sy’n Tyfu
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
- 20 Medi 2024Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
- 6 Medi 2024Ble mae'r dagrau
- 6 Medi 2024Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo
- 6 Medi 2024Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
- 10 Tachwedd 2023Reflections
- 18 Hydref 2023Raising an Army of Ordinary Intercessors (pt.3)
12