Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
Heulwen Davies
Mae fy nhad-cu yn 97 oed y mis hwn, ac mae'n dal i gofio'r dyddiau pan oedd y capeli'n llawn. Fel bachgen, gwelodd y lle yn orlawn â phobl yn eistedd yn yr eiliau, neu wedi'u casglu ar y grisiau ac yn y cyntedd. Yn amlwg nid oedd rheoliadau tân yn bryder pan oedd Duw ar waith! Mae’n cofio’r canu, y Gymanfa Ganu yn enwedig, ac mae’n dweud sut yr oedd pobl yn… hapusach. Gwyddom o straeon adfywiad — capeli’n llenwi, a tafarnai’n gwagio, Barnwyr yn gwisgo menig gwyn gyda dim i beirniadu — a hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Tad-cu yn cofio effaith yr Efengyl. Wrth i mi edrych ar Llanelli heddiw, ni fyddwn yn disgrifio ei phobl fel hyn.
Ac eto, rydym yn byw yn y wlad hon, â’i etifeddiaeth gyfoethog yn amlwg o’n gwmpas, â’i capeli gwag fel mynwent yn marcio gogoniant y gorffennol. Mae Tad-cu wedi gweld dirywiad ar hyd ei oes, ond yn y Capel ar ddydd Sul, mae’n dal i ganu ei emynau, eistedd o dan y Gair ac yn gweddio am dyddiau gwell. Ac rydym yn sefyll gydag ef mewn ffydd, gan gredu y bydd y llanw yn troi, bydd dirywiad yn dod i diwedd: bydd gogoniant yn dychwelyd i Gymru, i Sir Gâr ac i Lanelli unwaith eto. Mae ei weddïau ef, a gweddïau y ffyddlon dros blynyddoedd, wedi'u hau mewn dagrau ers degawdau: rwy'n gweddio am dyddiau Cynhaeaf o’r diwedd.
Mae Llanelli yn dref o ddwy hanner: cyfoethog a torredig mewn mesur cyfartal. Dewch i ymweld â’n harfordir hardd, bwyta Hufen Iâ o Joe’s neu chwarae golff ar ein cwrs enwog (felly rwyf wedi clywed ta beth), a chewch weld harddwch a chyfoeth. Dewch i grwydro drwy ganol y dref neu i lawr Station Road a chewch weld ardal lle mae ei hystadegau troseddu, tlodi a chyffuriau yn gofidus. Ac eto mae angen yr efengyl ar y ddau hanner. Mewn tref lle arferai mwyafrif ei phoblogaeth fynd i’r capel ar ddydd Sul, mae ond ychydig yn gwneud hynny bellach. Mae’r seddau’n wag, caneuon addoli heb eu canu a Beiblau heb eu darllen wrth i’r sanctaidd cael eu seciwlareiddio ar draws ein gwlad.
Ond mae Duw yn y busnes o wneud esgyrn sychion yn fyw.
Gweddïwch yn gyntaf dros y cyfoethog a’r cyfforddus: y byddent yn cydnabod tlodi ysbrydol, yr angen cyffredinol yma; y byddai Duw’n agor eu llygaid a toddi eu calonnau. Gweddïwch hefyd dros y rhai sy’n dioddef. Yn Lanelli yn benodol, mae pobl yn gaeth i gyffuriau ac wedi dioddef mewn tlodi ac esgeulustod. Mae’r system Gofal yn orlwm a galwad cynyddol am fanciau bwyd: mae pobl yn dioddef. Gweddïwch dros y rhai a effeithir fwyaf gan brofiadau anffafriol, y byddent yn dod o hyd i obaith ac iachâd yn yr unig un sy'n gallu trwsio eu doluriau dyfnaf.
Gweddïwch am i'n capeli gael eu llenwi, am cariad tuag at y Gair yn gael eu geni, i’r wlad hon o feirdd a chân i ganu unwaith eto i’r un a roddodd ceg inni i’w foliannu. Gweddïwch am cymorth ariannol i eglwysi sydd eu angen ac am amddiffyniad lle mae’r gelyn eisiau lladd, twyllo a dinistrio. A gweddïwch dros y mannau lle mae Duw ar waith. Eleni addawyd £750,000 inni i adfer capel adfeiliedig mewn ardal o’r dref sy’n dioddef o ddifri: edrychwn ar Gapel Siloah a dweud ie, gall yr esgyrn hyn fyw. Edrychwn yn ehangach ar ein tref, ein sir a’n gwlad ac yn adleisio Eseciel 37 gan ddweud: ‘Esgyrn sychion, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi anadl ynoch chi, a dod â chi yn ôl yn fyw.’
Nid yw Duw wedi gorffen gyda Sir Gâr, ac nid ydym ni chwaith, felly gweddïwch na fyddwn yn ddigaloni neu blino wrth wneud daioni.
Ni roddodd Tad-cu fyny. Yn enw Iesu, ni fyddwn ni yn chwaith.
Am gyfweliad a wnaethom gyda fy nhad-cu, Alwyn Jones, ychydig flynyddoedd yn ôl, gweler:
https://www.instagram.com/reel/Cz8_4UBNN0M/?igsh=MWdlOGlxcWdtdDF6cA==
Cariad Mawr,
Heulwen Davies, 21st Century Church ac Heirs.Wales
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Sudden Floods and Slow Growth: Praying for Wales' Spiritual Renewal
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt - Gweddi am Undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Lle o Her a Gobaith
- 4 Hydref 2024O Hedyn Gwyllt i Eglwys sy’n Tyfu
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
- 20 Medi 2024Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
- 6 Medi 2024Ble mae'r dagrau
- 6 Medi 2024Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo
- 6 Medi 2024Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
- 10 Tachwedd 2023Reflections
- 18 Hydref 2023Raising an Army of Ordinary Intercessors (pt.3)
12