Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Noson Weddi Gen-Z yn y Bala 3/10/2025
Owen Cottom
Dros ddwy ganrif yn ôl, cerddodd merch ifanc ar draws fryniau garw a thrwy nentydd oer i ddod o hyd i dref fechan y Bala. Syched ysbrydol oedd ei chymhelliad; roedd hi'n hiraethu am gael copi o'r Beibl yn iaith ei hun. Pan gyrhaeddodd o'r diwedd, cafodd ei chyfarch gan y Parchedig Thomas Charles a oedd yn falch o gyflawni dymuniad y disgybl ifanc, awyddus hwn. Dychwelodd adref yn llawen, gan gario gair Duw i'w phentref. Ei henw oedd Mari Jones, ac mae ei stori wedi dylanwadu’n ddwfn ar hanes y Bala a Chymru yn ehangach.
Ychydig ganrifoedd yn ddiweddarach, ar ddechrau mis Hydref 2025, gwnaeth tua 80 o bobl ifanc bererindod debyg i'r un dref ar gyfer Noson Weddi Gen-Z Cant i Gymru. Gan deithio o bob cwr o'r genedl trwy amodau stormus, cymhelliant ysbrydol oedd ganddyn nhw hefyd; awydd i gyfarfod â Duw a chael eu paratoi ar gyfer Ei genhadaeth. Pan gyrhaeddodd y bobl ifanc hyn y Bala, cawsant eu cyfarch gan doriad yn y cyflenwad pŵer! Roedd y storm wedi dileu trydan y rhan o'r dref lle'r oeddem yn ymgynnull. Ond nid oedd syched y bobl ifanc hyn yn cael ei ddiffodd. Wrth i gynlluniau newid a'r tîm ddod at ei gilydd i oleuo dwsinau o ganhwyllau, dechreuodd noson bwerus o weddi ac addoliad. Gweddïwyd am ffrindiau ac aelodau o'r teulu coll. Rhannwyd straeon am sut mae Duw yn defnyddio pobl ifanc cyffredin i hyrwyddo Ei deyrnas yng Nghymru heddiw. Rhannwyd ysbrydoliaeth o hanes eglwysi Cymru. Atgoffwyd ni o'n hunaniaeth fel plant Duw. Clywyd a derbyniwyd yr alwad i fyw mewn cenhadaeth. Noson fythgofiadwy i nifer fawr ohonom!
Mae stori Mari Jones yn ein hatgoffa y gall ffydd selog un person ifanc adael gwaddol ysbrydol i genedlaethau. Ein gweddi yw y bydd yr un peth yn wir am Gristnogion ifanc Cymru heddiw. Ymunwch â ni i weddïo y bydd y bobl ifanc hyn yn cario gair Duw yn ôl i'w trefi a'u pentrefi, eu hysgolion a'u prifysgolion. Ymunwch â ni i weddïo y bydd y don nesaf o blannu eglwysi yng Nghymru yn deillio o ffydd y dynion a'r menywod ifanc hyn. Ymunwch â ni i weddïo y bydd Duw yn parhau i ddeffro syched ysbrydol yn y genhedlaeth hon.
- 7 Tachwedd 2025Powys
- 7 Tachwedd 2025Hanes Plannu - Cross Hands
- 7 Tachwedd 2025Noson Weddi Gen-Z yn y Bala
- 29 Hydref 2025Revival & The Unity of the Church
- 3 Medi 2025Torfaen
- 7 Mai 2025Diweddariad ar waith Rhwyd y Brenin
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Llifogydd Sydyn a Thyfiant Araf
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt – gweddi am undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Blaenau Gwent
- 4 Hydref 2024Eglwys Hope Sir Benfro
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Sir Gâr
12
