This is the message when attempting to connect to server

This is the custom message when failing

This is the custom message when refused

Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference

/

Hanes Plannu: Cross Hands

Haia Gareth a Lydia! Allech chi gyflwyno'ch hunain - pwy ydych chi a o ble rydych chi'n dod? A hefyd sut wnaethoch gyrraedd y pwynt yma? Sut mae Duw wedi eich arwain i Cross Hands?

Mae Gareth o Gasnewydd (Gwent), a Lydia o Gydweli. Fe wnaethon ni gyfarfod yng Nghaerdydd yn 2005 lle roedden ni'n byw ar y pryd a dyna lle y priodon ni a chael ein tri phlentyn hyfryd. Symudon ni i'r Gorllewin yn 2021 yn ystod Covid pan siaradodd Duw â ni am ddechrau gwaith newydd yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Gadawon ni bopeth oedd yn gyfforddus er mwyn derbyn galwad Duw - nid yw wedi bod yn hawdd ar adegau, ond rydyn ni wedi bod yn ymwybodol o arweinad Duw yn y cyfan. Fe wnaethon ni wir geisio Duw a'i ewyllys ar gyfer yr ardal ac i ni fel teulu ac i droi stori hir yn fyr, Fe'n harweiniodd ni i Cross Hands! Rhoddodd Duw Cross Hands a'r trefi a'r pentrefi cyfagos ar ein calonnau dro ar ôl tro a pharhau i'n denu i'r ardal. Credwn ei fod yn caru'r gymuned yma ac rydyn ni wir yn Ei weld yn gweithio. Rydyn ni mor gyffrous i fod yn rhan o'r hyn mae'n ei wneud yn y sir hon.

Dywedwch ychydig wrthym am eich cynlluniau ar gyfer Freedom Church Carmarthenshire!

Credwn fod Duw yn gwneud pethau mawr yn y genhedlaeth hon yng Nghymru ac rydym wrth ein bodd yn bod yn rhan o hynny drwy gychwyn Eglwys newydd sy'n cyhoeddi’r Efengyl yma. Credwn y bydd yn gymuned lle bydd pobl yn adnabod Duw, yn dod o hyd i ryddid, yn darganfod pwrpas ac yn gwneud gwahaniaeth. Rydym yn bwriadu lansio'n swyddogol ar 1 Mawrth 2026 – Dydd Gŵyl Dewi! Rydym yn rhan o rwydwaith ehangach Freedom Church. Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion ar ein gwefan: freedomcarmarthenshire.church

Mae'n ddyddiau cynnar iawn, dwi’n gwybod, ond allwch chi rannu ychydig am sut mae Duw wedi bod ar waith yn ystod y cynllunio?

Rydyn ni wedi dechrau cynnal nosweithiau cymdeithasol i gwrdd â phobl leol. Mae wedi bod mor galonogol. Rydyn ni wrth ein bodd yn dechrau dod i adnabod pobl newydd yma ac rydyn ni wrth ein bodd yn clywed rhai o straeon eu bywydau. Ac mae wir yn teimlo fel braint rhyfeddol. Mae rhai pobl eisoes yn credu ac mae ganddyn nhw ffydd ond dydyn nhw erioed wedi bod yn rhan o eglwys ond bydden nhw'n hoffi bod. Roedd eraill yn arfer bod ac maen nhw nawr yn teimlo bod Duw yn eu galw'n ôl i gymuned yr Eglwys. Mae eraill eto wedi dod heb wybod pam, nac eto’n gwybod beth i'w gredu am Dduw, ond yn gwybod bod angen iddyn nhw fod yno rywsut! Rydyn ni wrth ein bodd! Gwelsom ni batrwm cyffredin yn stori llawer ohonyn nhw - roedden nhw'n gwybod am rywun sy’n gweddïo drostyn nhw!

Byddem wrth ein bodd yn annog ein darllenwyr i weddïo dros y gwaith yn Cross Hands. A allech chi roi 5 pwynt gweddi inni i lywio ein gweddïau?

  • I roi MAWL a diolch i Dduw am y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud yma gan eraill yn y gorffennol – rydym yn gwybod am eraill sydd wedi gweithio dros yr Efengyl yn yr ardal hon. Rydym wedi cwrdd â llawer ohonynt, wedi gweddïo gyda nhw ac wedi teimlo cysylltiad a chyfeillgarwch agos â nhw. Rydym mor ddiolchgar am eu ffyddlondeb a'r holl hadau y maent wedi'u hau. Nid oeddent yn ofer!
  • Ar i Dduw ein HAMDDIFFYN fel teulu. Am ddoethineb i arwain, agosatrwydd â'r Ysbryd Glân, a chalonnau sy'n ymddiried yn barhaus yn Ei nerth Ef ac nid ein nerth ein hunain – ni allwn, ac nid ydym am wneud unrhywbeth hebddo!
  • Gweddïwch dros y BOBL a fydd yn ymuno â ni yn y gwaith, a'r bobl y mae Duw eisiau eu cyrraedd. Dros eu hiachawdwriaeth, rhyddid o'r pethau sy'n eu dal yn ôl ar hyn o bryd, a chyflawnder bywyd Ioan 10:10 y mae Duw yn dymuno iddynt ei wybod a'i brofi.
  • Gweddïwch am y TREFNIADAU YMARFEROL, fel tîm i wasanaethu Duw ochr yn ochr â ni i adeiladu Ei dŷ, y lleoliad, yr offer, a'r arian i wireddu’r weledigaeth.
  • Galwch ar Dduw i'n bendithio â'i BRESENOLDEB – yn fwy nag unrhyw beth, rydym yn ymbil arno i fod yn bresennol trwy Ei Ysbryd gyda ni a chyda'r genhedlaeth hon.

Diolch! Thank you!