This is the message when attempting to connect to server

This is the custom message when failing

This is the custom message when refused

Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference

/

Pam fod angen am eglwysi newydd wedi eu plannu ar draws Gogledd Cymru?

Gogledd Cymru yw fy nghartref. Treuliais i 6 mlynedd i ffwrdd oherwydd prifysgol a gwaith, ond ni wnaeth yr hiraeth a’r bwrdwn am y darn yma o Gymru distewi yn fy nghalon. Pan ro’n i i ffwrdd wna i byth anghofio astudio Effesiaid 2:1-10 a chael fy chwythu i ffwrdd o’r newydd gan ryfeddod ac yr angen am yr efengyl. Torrodd fy nghalon am adre a’r miloedd o’r Fro Cymraeg oedd yn cerdded trwy bywyd heb unrhyw ymwybyddiaeth o’r gwahoddiad sydd gan Iesu i BAWB i ddod o hyd i fywyd ynddo Ef.

Yr hyn wnaeth arwain Lydia a minnau i Blaenau Ffestiniog oedd map weddi wnaeth Cymrugyfan gosod ar eu gwefan i tynnu sylw’r eglwys i ardaloedd o angen ysbrydol a chymdeithasol yng Nghymru.

Dechreuais i ddarllen y wefan a gweld roedd pethau wedi newid yn Ne Cymru ers i’r wefan cael ei ddiweddaru diwethaf. Darllenais am y Rhondda ble roedd cwpwl ifanc o’r enw Ben a Lois Franks ar fin plannu eglwys yn Nhonypandy, erbyn yr amser yr oeddwn yn darllen roedd Hope Rhondda yn eglwys wedi ei sefyldu a chynllun mewn lle i ail eglwys cael ei phlannu fyny’r cwm yn Nhreorci. Darllenais am gwpwl ifanc arall yn Landysul Seff a Gwenno Morris oedd newydd symud yna i ddechrau eglwys newydd Gymraeg. Erbyn hynny reodd Ffynnon wedi ei phlannu a roedden nhw’n gweld Duw yn gwneud pethau anghygoel. Ond ro’n i’n gwybod wrth i fi symud ymlaen o ddarllen am De Cymru a dechrau darllen gweddiau dros Gogledd Cymru am lefydd fel Machynleth, Dolgellau, Harlech, Corwen, Ynys Môn a Blaenau Ffestiniog na fyddai’r stori wedi newid.

Wedi’u gadael ar ôl

I lawer nid yw symud i Ogledd Cymru yn gwneud synnwyr. Nid ydym yn brolio yr un dinasoedd a’r De neu dros y ffin, nid oes yr un cyfleodd ac arian yma, fel y pentyrau llechi o gwmpas tref Blaenau Ffestiniog mae pobl ar draws y rhanbarth yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl. Mae Gogledd Cymru i lawer wedi gweld dyddiau gwell a mae’r trefi wirioneddol yn teimlo fel eu bod ar eu gliniau. Mae llawer yn teimlo bod rhaid iddyn nhw adael, a mae’r rhai sy’n aros yn derbyn cydymdeimlad yn fwy na dim! Mae GYMAINT o harddwch naturiol yma, mae pobl wrth eu bodd yn ymweld fel twristiaid fel bod ‘na broblem enfawr efo ail dai, ond mae aros yma yn beth gwbwl wahanol. Tu ôl i’r harddwch, os arhoswch digon hir a dewis gweld go iawn fe welwch broblemau dwfn yn codi o digalondid, caethiwed a diweithdra sydd oll yn cyfrannu i’r teimlad cyffredinol o anobaith sydd wedi treiddio’r tir a’r bobl yn ddwfn.

Roedd ni yn symud i’r Gogledd yn golygu gadael Caerdydd. Roedd o’n golygu Lydia yn gorfod gadael adre a’i theulu. Roedd o’n golygu dweud hwyl fawr i deulu gwerthfawr capel, gadael cyfleustra’r ddinas a phopeth oedd gan y ddinas i’w gynnig - ro’n ni arfer byw yn y deliveroo zone ac hoff noson allan Lyds oedd trip i B&M bargains lawr y ffordd!! Roedd symud i Blaenau yn golygu symud ein teulu bach (roedd Mali yn 6 mis oed ar y pryd), newid swyddi, a bod yn barod i fyw yn un o’r llefydd tlotaf ym Mhrydain. Mae pethau yn galed yma, ac i rai yn eithafol o galed. Mae stori Blaenau yn un o anghyfiawnder ac yn un o gymryd yn lle o roi e.e. Mae’r orsaf bŵer ddŵr sydd yma yn cyhoeddi elw o biliynau ond Blaenau ydi’r tlotaf yng Nghymru o ran tanwydd.

Mae ‘na dyddiau lle dwi wedi cwestiynu symud yma, ble rydym wedi methu Caerdydd a phob dim yr oedd ganddom. Pan wnaetho ni gyrraedd Blaenau - roedd hogiau’r clwb rygbi yn cwestiynu os oeddwn yn gwybod sut le oedd Blaenau go iawn?! Ond mae Duw wedi rhoi llygaid i ni weld yr harddwch o’n cwmpas ac yn y bobl. Mae’n wir pan mae pobl yn dweud mai’r pobl yw gwir aur Ffestiniog. Ni’n caru lle ni’n byw ond weithiau mae ofn ac amheuaeth yn cymryd gafael. Pan mae hynny’n digwydd, rwy’n dod nol i eiriau Paul i’r Rhufeiniad:

“Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu? Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon?

... Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da”

Ble mae’r traed weddaidd felly yng Ngogledd Cymru?

Restanza

Dwi wedi bod yn cysylltu a dysgu gymaint gan y criw sy’n arwain Cwmni Bro, rhwydwaith o mentrau cymdeithasol yma ym Mlaenau. Maent yn siarad am y syniad Eidaleg o’r enw ‘Restanza’ fel y grym sydd yn siapio eu gwaith ysbrydoledig; “restanza means choosing to stay in a place in a conscious and proactive way by actively guarding it, being aware of the past while enhancing what remains with an impulse towards the future where a new community is possible.” I fi mae hwn yn syniad Gristnogol ddwfn. Mae’r antur yn bodoli yn y dewis i aros.

Byddai Iesu wedi medru dewis cadw ffwrdd o’n byd torredig ond dewisiodd ddod yn “berson o gig a gwaed” a dod “i fyw yn ein plith.” Ac i bwy symudodd yn agos i? Symudodd yn agos i’r tlawd. Gwnaeth y dewis bwriadol i aros rhywle nad oedd neb yn aros ynddo, cyffwrdd pobl nad oedd neb yn fodlon cyffwrdd, cysuro’r rhai nad oedd neb yn cysuro.

Doedd ‘na ddim byd “strategic” am hyn. Wnaeth Iesu o Nasareth ddim mynd ar ôl yr “influencers” a’r canolfannau diwylliannol, yn lle fe aeth ar ôl calon Duw. Fe wnaeth Iesu ochri efo’r tlawd, y rhai ar yr ymylon, y rhai wedi eu gorthrymu.

Oherwydd bod y dwyfol wedi dewis ymgnawdoli, dyna yw ein galwad ni hefyd. Rydyn ni oll wedi ein galw i restanza - i ymuno â Christ yn Ei antur a pharternu efo Fo yn ei waith o adnewyddu ein cymunedau a thu hwnt. I rai bydd hynny’n golygu aros, ond i eraill bydd o’n golygu dewis rhywle i symud iddo sydd wedi eu hen anghofio a sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr i’r byd tu allan, i tyllu fewn iddo a gweithio ynddo i ddangos i bobl beth yw eu gwir gwerth.

Felly, ble mae’r traed gweddaidd yng Ngolgedd Cymru? Pwy wneith restanza yma? Mae gymaint i’w ddweud am ein gorffennol - yn sicr. Dim ond chydig dros 100 mlynedd yn ôl yn 1904 roedd tân yn llosgi yma odd yn “ddyfnach” a mwy “intense” na hyd yn oed y nifer fawr o fflamau oedd i weld yn Ne cymru. OND golygai restanza ein bod yn gweithio am ddyfodol gwell ble mae Duw yn gwneud rhywbeth newydd eto.

A wnawn ni fel eglwys dewis ffordd Iesu drwy bod digon agos i’r tlawd i medru eu “helpu nhw unrhyw bryd” neu ydyn ni am barhau i gredu celwydd ein byd a cheisio’r bywyd hawdd, moethus, predictable? A wneith rhai ystyried symud yma? Ceisio ffordd restanza - i roi ein hunain yn llwyr i weithio dros “heddwch a llwyddiant” ein lle?

“Welcome to Gogledd Cymru”

Rwan, dwi ddim yn siwr os wnaetho’ chi sylwi ar ddathliadau dyrchafiad Wrecsam dechrau’r haf? Am beth hyfryd sy’n digwydd yna. Fel tref (rwan yn ddinas) fwyaf Gogledd Cymru, stori Wrecsam yw stori Gogledd Cymru - tref ar ei liniau. Bellach mae’n cael ei hadnewyddu o ganlyniad i’r clwb pêl-droed achos bod y perchnogion wedi bod yn barod i fuddsoddi, mewn ffordd sylweddol, yn y clwb a’r gymuned.

Ar y rhaglen “Welcome to Wrexham” yn fuan iawn chi’n gweld y dryswch a rhyfeddod sydd yna tuag at Ryan a Rob - yr actorion o Hollywood a ddewisodd prynu Wrecsam. Mae dilynwyr brwd y clwb yn gofyn iddyn nhw’n aml “Pam Wrecsam?” neu “Pam ni?”. Ac eu ymateb i’r holl gwestiynnau ac ameuhon yw “union dyna pam!!” Mae o oherwydd fod Wrecsam wedi eu gweld eu hunain yn “werth dim”. Pan chi’n cael eich magu mewn tref sydd efo naratif fel yna - fe wnewch chi gredu o yn o fuan. A dyna pam buddsoddi. Dyna pam Wrecsam. Dyna pam mae Ryan a Rob yma i aros, eu bod heb newid eu meddwl ar ôl i bethau fynd ychydig yn galed, a dyna pam maent yn barod i roi eu harian i bethau ar ac oddi ar y cae. Mae atmosffer y tref ei hun wedi newid yn llwyr.

Rwan, y cwestiwn sydd gen i ydi hwn... os gall dau actor o Hollywood gwneud hynny i dref yng Ngogledd Cymru... faint yn fwy dylsa eglwys Iesu bod yn neud? Rhaid i ni geisio am fwy oherwydd efo ein Duw ni mae yna wastad mwy! Os dyna yw effaith adnewyddu’r clwb pêl-droed, faint yn fwy byth fydd effaith adnewyddiad eglwys Iesu a’i heffaith ar hyd a lled Gogledd Cymru a’i tlodion?

Mae’r caeau yn wyn

Pan roedd Iesu Ffynnon yn Samaria, lle wedi ei hen anghofio a wedi’i adael ar ôl, d’wedodd wrth ei ddisgyblion - os codwn ein llygaid fe welwn fod y caeau yn “wyn” ac yn barod i “cynhaeafu.” Mewn llefydd annisgwyl, wedi eu hen anghofio a’u gadael ar ôl mae Iesu yn gweld caeau gwyn sy’n barod i’w cynhaeafu! Bydd ein efengyl o hyd yn ymgnawdoledig, o hyd i’r tlawd yn gyntaf, o hyd yn bopeth neu dim byd. A fyddwch yn ystyried bod yn weithiwr yma? A wnewch chi ddewis restanza yma? A wnewch chi ddewis Cymru? A thrwy hynny dewis partneru efo Duw yn ei waith o adnewyddu!