This is the message when attempting to connect to server

This is the custom message when failing

This is the custom message when refused

Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference

/

Ble Mae'r Dagrau?

Owen Cottom

"O na fyddai fy mhen yn ffynnon ddŵr a'r dagrau yn pistyllio o'm llygaid, Wedyn byddwn i'n crio ddydd a nos am y rhai hynny o'm pobl sydd wedi cael eu lladd!"
(Jeremeia 9:1)

Rydym yn dyheu i'n gwlad gael ei hadnewyddu gan yr efengyl. Rydym yn dyheu i lifddorau’r nefoedd agor a thywallt bendith ar bobl Cymru. Rydym yn dyheu am symudiad gan Duw yng Nghymru heddiw. Rydym yn dyheu am ddiwygiad.

Yng nghanol y dyheu yma, ni’n gweld a chlywed nifer o arwyddion gobaith. Gwelwn arloeswyr dewr yn symud eu teuluoedd ac yn rhoi eu bywydau i lawr i weld gobaith Duw yn cael ei blannu mewn cymunedau diffaith. Ni’n clywed straeon am unigolion yn dewis dilyn Iesu, yn cael eu bedyddio ac yn cael eu hychwanegu at yr eglwys. Gwelwn undod rhwng eglwysi lleol lle'r oedd gelyniaeth ar un adeg; awydd i weithio gyda'n gilydd lle'r oedd amheuaeth a gwahanu’n digwydd. Ni’n clywed adroddiadau am bobl ifanc yn gollwng eu difaterwch diwylliannol ac yn ymrwymo'n llawn i ddilyn Iesu.

Llawer o arwyddion gobaith. Ond onid ydym yn dyheu am gymaint mwy? Pan fyddwn yn mesur yr hyn rydyn ni'n ei weld yn erbyn yr hyn rydyn ni wedi'i brofi yn ein hoes, mae gennym reswm i gael ein calonogi. Ond pan fyddwn yn mesur yr hyn rydyn ni'n ei weld yn erbyn addewidion Duw yn yr Ysgrythur a hanes ei weithredoedd yng Nghymru'r gorffennol, ni allwn ond dod i'r casgliad bod mwy i ddod. Mwy o’r efengyl i’w fwynhau, mwy o’i thrawsnewidiad i’w brofi; mwy o Dduw i fwy o Gymru.

Rôl y Cristion sy’n gweddïo yw sefyll yn y bwlch rhwng yr hyn sy'n bosibl yn nheyrnas Dduw a'r hyn sydd yn ein cymunedau. Rydym yn cael ein galw i estyn un llaw allan mewn ffydd tuag at addewidion Duw ac un llaw allan mewn cariad at ein byd toredig.

Rydym yn cael ein galw i fyw i'r dyhead hwn ac i'w fynegi gyda'n gweddïau. Ond mae’n ymddangos i mi wrth ddarllen yr Ysgrythur a hanes diwygiad yng Nghymru bod yna math benodol o weddi sy’n cyd-fynd â’r dyhead hwn am fwy o deyrnas Dduw yn ein cymunedau. Pan edrychwn ar gofnod y cyfarfodydd gweddi cyn ac yn ystod adfywiad 1859, gwelwn batrwm clir yn dod i'r amlwg...

"Roedd cynulleidfaoedd yn cael eu golchi mewn dagrau"

"Ymddangosai fel petai’n bwrw dagrau"
(yn disgrifio gweddïau’r cristnogion Newydd)

"Roedd dagrau'n disgyn fel cawodydd Mehefin drwy belydrau'r haul"
(yn disgrifio cyfarfod gweddi)

"Byddwn yn herio’r pechadur mwyaf caled i aros pum munud o fewn clyw’r gweddïau hyn heb gael ei doddi’n ddagrau. Mewn gwirionedd, nid gweddïau mo’r rhain, ond disteddiadau torcalonnus ac ocheneidiau poenus enaid."

Mae hyn wedi fy ngwneud i ofyn cwestiwn syml: ble mae'r dagrau?

Mae Duw yn greadigol - mewn pob cenhedlaeth newydd ac mewn pob lle newydd, mae'n gwneud gwaith newydd sy'n cael ei deilwra i'r bobl a'r lle hwnnw. Duw y "peth newydd" (Eseia 43:18-19) ydy E. Ond mae E yn gweithio mewn patrymau. Wrth i ni ddarllen stori'r Ysgrythur, gwelwn pan fydd Duw ar fin esgor ar waith newydd yn y tir, mae E’n paratoi'r ffordd trwy ddagrau Ei bobl. Gellid dweud bod dagrau Ei bobl yn gwlychu’r ddaear fel bod pridd caled yn dod yn dir ffrwythlon i dwf yr efengyl.

Yn nyddiau tywyll y Barnwyr, pan roedd "pob un yn gwneud yr hyn a oedd yn iawn yn ei lygaid ei hun" (Barnwyr 21:25), mae Hanna yn wylo gerbron yr Arglwydd i ofyn am fab a fydd yn cael ei roi i waith Duw (1 Samuel 1:10). Yn nyddiau llethol alltudiaeth, pan "roedd pobl Dduw yn mynd o un pechod i’r llall [heb] gydnabod Duw" (Jeremeia 9:3), mae Jeremeia’n gweddïo "O na bai fy mhen yn ffynnon o ddŵr, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau! Byddwn yn wylo ddydd a nos dros y rhai a laddwyd o’m pobl" (Jeremeia 9:1).

Yn y wlad pell alltud, pan ganfyddodd fod mur Jerwsalem wedi’i ddinistrio, "ef eisteddodd i lawr ac wylo… galaru ac ymprydio a gweddïo gerbron Duw nefoedd" (Nehemeia 1:4). Yn y dyddiau olaf cyn y groes, pan welodd Iesu ddinas Jerwsalem – mor annwyl a mor dorcalonnus – "ef a wylodd drosti" (Luc 19:41). Nid yw’r engreifftiau hyn yn eithriadau. O Joseff i Daniel yn yr Hen Destament ac o Anna i Paul yn y Testament Newydd, rydym yn gweld y saint o’r gorffennol yn uno eu calonnau â chalon Duw dros eu byd torredig ac yn ei fynegi drwy wylo mewn gweddi. Yn y bwlch rhwng torcalon y ddaear a bendith nefoedd, mae pobl Dduw yn wylo.

Nid ymateb yn unig ydi dagrau, maent yn fuddsoddiad yn yr hyn a all fod. Fel wnaeth Charles Spurgeon ddweud, "Tears are liquid prayers". Maent yn weddi sy’n cyd-fynd â gweledigaeth Rhufeiniaid 8 - tra bo "creadigaeth wedi bod yn griddfan" am achubiaeth Duw, "rydym ninnau, sydd â’r cyntaffrydoedd o’r Ysbryd, yn griddfan ynom ein hunain wrth i ni aros yn eiddgar" am i deyrnas Dduw ddod (Rhufeiniaid 8:23).

Nid yw hwn yn alwad i chwyddo rhywbeth yn fwy nad ydyw na chanolbwyntio’n ormodol ar emosiwn. Dyma alwad i galon Duw. A dechrau diwygiad yw dychwelyd at galon Duw. Pan fyddwn yn dechrau rhannu yng nghalon Duw dros dorcalon ein byd, gallwn fod yn sicr bod bendith ar ei ffordd. Gwrandewch ar y geiriau hyn gan ddyn oedd yn ffigwr ganolog mewn diwygiad yn yr UDA, Charles Finney…

"When the wickedness of the wicked grieves and humbles and distresses Christians... sometimes the conduct of the wicked drives Christians to prayer, break them down, and make them tender-hearted, so they can weep day and night, and instead of scolding the wicked, they pray earnestly for them. Then you may expect a revival. Indeed it has already begun"

Mae patrwm Duw o ddiwygio yn aml yn gweld dagrau gweddigar yn paratoi’r ffordd ar gyfer bendithion a thorri tir newydd. Mae Duw yn defnyddio wylo Hanna i roi Samuel i’r byd. Mae Duw yn defnyddio wylo Jeremeia i weld Ei bobl yn dychwelyd o alltudiaeth. Mae Duw yn defnyddio wylo Nehemeia i godi ffydd i ailadeiladu. Mae Duw yn defnyddio wylo Iesu i ddod a atgyfodiad i Lasarus a phrynedigaeth i Jerwsalem. Neu, yn syml, "Bydd y rhai sy’n hau mewn dagrau yn medi gyda chaneuon llawenydd" (Salm 126:5).

Felly, saint Cymru a thu hwnt, y rhai sy’n hiraethu am symudiad newydd gan Dduw yn ein dyddiau ni; a fyddai unrhyw un ohonom yn ddigon dewr i ofyn i Dduw am y rhodd yma o ddagrau? A fyddai unrhyw un ohonom yn aros gerbron yr Arglwydd nes iddo roi Ei faich i ni dros Gymru? A fyddai unrhyw un ohonom yn cynnig ein cyrff i fod yn lestri ar gyfer calon Duw?