Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Cydlynydd Cynnwys
Mae tîm Cant i Gymru yn edrych am Gydlynydd Cynnwys talentog i weithio inni yn rhan-amser i ddod a strwythur, trefn a chreadigrwydd i’n presenoldeb digidol.
Mae’r byd digidol yn rhoi inni gyfle rhyfeddol i ysbrydoli pobl o bell ac agos i chwarae rhan yn ein gweledigaeth o weld 100 o eglwysi iach yn cael eu plannu yng Nghymru dros y ddegawd nesaf. O ganlyniad, yr ydym yn edrych am unigolion sydd a chalon dros Gymru, yn teimlo’n angerddol dros Eglwys Iesu, ac yn meddu ar brofiad o farchnata digidol i ymuno â’r tîm.
Bydd y rôl yn gofyn am barodrwydd i weithio o adref, a gellir gweithio oriau hyblyg yn ôl y gofyn. Bydd angen ichwi fod yn rheolwr prosiect rhagorol, yn medru gweithio o fewn i gyfyngiadau amser, ac yn meddu ar allu i roi sylw i fanylion. Mi fydd y gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg o gymorth mawr.
Cyfrifoldebau
- Gweithio gyda tîm Cant i Gymru i gynhyrchu strategaeth a chalendr ar gyfer cynnwys ar amryw sianelu.
- Cydlynu cyflwyno’r cynnwys hwn (deunydd rhwydweithiau cymdeithasol, blogiau, e-byst, fidio, cynnwys y wefan ayyb) gyda rhan-ddeiliaid eraill (dylunwyr, fideograffwyr, cyfieithwyr, y rhai sy’n marchnata deunydd digidol a’r rhai sy’n ysgrifennu cynnwys ayyb).
- Cydlynu y gwaith golygu a deunydd terfynol gyda tîm Cant i Gymru.
- Adolygu dadansoddeg a perfformiad y cynnwys er llywio cynnwys a cyfathrebu’r dyfodol.
- Cydlynu cyfathrebu ar gyfer digwyddiadau wyneb yn wyneb.
- Ysgrifennu deunydd a golygu cynnwys yn ôl y galw.
- Gweithio’n agos â’n Cydlynydd Gweithrediadau i ddiogelu ein bod yn drefnus ac ar y trywydd iawn.
Sgiliau a Phrofiad
- Profiad o weithio ar gynnwys ar lwyfannau cyfathrebu amrywiol (e.e., Instagram, Facebook, TikTok, MailChimp, HubSpot, YouTube ayyb).
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- Meddylfryd creadigol.
- Manylder.
- Y gallu i reoli prosiect o fewn i gyfyngiad amser.
- Bydd y gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol.
Y manylion:
- £25,000 o gyflog (pro rata).
- Byddwn yn dod i gytundeb ar nifer yr oriau (disgwylir rhwng 10 a 16 awr yn wythnosol).
- Cyfle i weithio’n hyblyg o amgylch ymrwymiadau eraill.
- 22 diwrnod o wyliau a gwyliau cyhoeddus (pro rata).
- Y cyfle i fod yn rhan o’r weledigaeth gyffrous yma o’i chychwyn.
Os am ymgeisio, anfonwch CV a llythyr i ben@100.cymru.
Os am lawrlwytho fersiwn pdf o’r hysbyseb,
cliciwch yma.
- 7 Tachwedd 2025Powys
- 7 Tachwedd 2025Hanes Plannu - Cross Hands
- 7 Tachwedd 2025Noson Weddi Gen-Z yn y Bala
- 29 Hydref 2025Revival & The Unity of the Church
- 3 Medi 2025Torfaen
- 7 Mai 2025Diweddariad ar waith Rhwyd y Brenin
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Llifogydd Sydyn a Thyfiant Araf
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt – gweddi am undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Blaenau Gwent
- 4 Hydref 2024Eglwys Hope Sir Benfro
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Sir Gâr
12
