This is the message when attempting to connect to server

This is the custom message when failing

This is the custom message when refused

Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference

/

Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo

Steff Morris

Ceredigion

Dyma sir sy'n arddangos y gorau o Gymru! Llwybr arfordirol gyda golygfeydd syfrdanol, traethau prydferth a thawel, cymunedau amaethyddol traddodiadol yn cynhyrchu lluaws o gynyrch lleol gwefreiddiol, trefi byrlymus a hudolus, cadarnleodd yr iaith, hunaniaeth, a diwylliant Gymreig, a poblogaeth sy'n gynnes, croesawgar, a thwym-galon. Mae wir mor hyfryd ac mae'n swnio!

Fodd bynnag, yng nghanol y prydferthwch naturiol ar cynhesrwydd cynhenid, nid oes llawer o gynhesrwydd wedi bod dros y canrifoedd tuag at efengyl Iesu Grist. Y tu allan i un addoldy undodaidd yn y Sir mae plac i ddathlu'r ffaith fod y cymunedau hyn wedi gwrthsefyll pob diwygiad neu adfywiad efengylaidd ar hyd y blynyddoedd. Maent yn ymalfachio yn eu statws fel "Smotyn Du" Cymru.

Gweddïwch y bydd goleuni a phrydferthwch Iesu yn disgleirio ar hyd a lled y sir, yn goleuo pob tref a phentref gyda gobaith newydd!

"Mae'r golau'n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd."

Diolchwch i Dduw am y gwaith cenhadol newydd sy'n digwydd yn yr ardal. I nodi tri, mae cymuned Ffynnon yn Llandysul yn dal i dyfu, mae Freedom Church yn Aberystwyth yn cysylltu â'r gymuned mewn nifer o ffyrdd, ac mae cynulleidfa newydd ar ddechrau yn ardal Castell Newydd Emlyn. Gweddïwch y bydd Duw yn bendithio tystiolaeth y nifer fychan o eglwysi a cymunedau o ffydd yn yr ardal, ac yn galw pobl ato Ef ei hun.

Gweddïwch, ar ddechrau tymor newydd, bydd Duw yn bendithio y prifysgolion a myfyrwyr yn Llanbed ac Aberystwyth yn arbennig. Bydd myfyrwyr yn cyfarfod â Iesu, yn cael eu hyfforddi i'w ddilyn a'i wasanaethu, ac yn mynd adref i wneud disgyblion yn eu cymuneday eu hunain.

Gweddïwch yn olaf, ond efallai fwyaf pwysig, dros blant a phobl ifanc Ceredigion. Mae'r lefelau tlodi ymysg plant yma yn arwsydus, ac mae nifer o blant yr ardal o fewn system gofal sydd yn gwneud eu gorau newn amgylchiafau heriol tu hwnt. Gweddïwch y bydd plant Ceredigion yn profi agosrwydd Ein Tad yn y nefoedd, ac yn dod o hyd i le saff a chynhesrwydd gan Ei deulu, yr Eglwys, yma ar y ddaear.