Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Dim ond cant!?
Meirion Morris
Yr wyf wedi bod yn darllen yn ddiweddar am hanes ymweliad Joseph Williams Kidderminster â Trefeca yn 1746. Nawr, rwy’n tybio fod yna bethau yn y frawddeg yna sydd yn ddieithr i chi, felly gair o esboniad.
Mae’n debyg eich bod yn gwybod mae cartref Howel Harris, un o arweinwyr y Diwygiad Efengylaidd yng Nghymru yw Trefeca. Ei dröedigaeth ef yn 1735, a thröedigaeth Daniel Rowland yr un flwyddyn oedd man cychwyn y diwygiad yng Nghymru. Cychwynnodd diwygiad yr un flwyddyn yn Lloegr o dan weinidogaeth George Whitfield ac yn ddiweddarach John a Charles Wesley, a diwygiad yn Lloegr Newydd yn yr un flwyddyn o dan weinidogaeth Jonathan Edwards.
O ran Joseph Williams Kidderminster, wel, mae hwn yn ŵr sydd ond wedi dod i’m sylw yn ddiweddar iawn. Anghydffurfiwr oedd Williams, un oedd yn wneuthurwr dillad llwyddiannus yn y dref honno, ac wedi etifeddu y busnes yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1719. O ran fy niddordeb i, mae Williams yn enwog gan iddo gadw dyddiadur yn ystod ei fywyd, dyddiadur gafodd ei olygu a’i gyhoeddi gyntaf gan ei weinidog Benjamin Fawcett, wedi ei farwolaeth. Cymaint oedd poblogrwydd y gyfrol fel bod y 14eg argraffiad wedi ei chyhoeddi erbyn 1816. Cyhoeddwyd fersiwn llawnach o’r dyddiadur yn 1853, a teitl y gyfrol honno yw ‘The Christian Merchant: a Practical Way to Make “The best of both worlds” Exhibited in the Life and Writings of Joseph Williams of Kidderminster’
Peth arall sy’n ddiddorol yw fod y dyddiadur yn eiddo i arweinydd lleyg yn yr eglwys. Yr oedd yn aelod yn yr eglwys lle yr oedd Richard Baxter, awdur ‘The Reformed Pastor’, a’r gorau erioed o weinidogion yn ôl J C Ryle, wedi bod yn weinidog. Prin yw’r esiamplau mewn print, ac felly y cof ddylai fod gennym, o arweinwyr lleyg dylanwadol iawn a ddefnyddiwyd gan yr Arglwydd, a hynny mewn ffyrdd rhyfeddol. O ran Joseph Williams, yn dilyn marwolaeth ei dad, mae’n cyfeirio at ei esiampl iddo. Byddai hwnnw ‘...yn codi am 4.00 bob bore er mwyn treulio 2-3 awr yn darllen, myfyrio a gweddïo..’ cyn mynd am ei waith. Wrth ysgrifennu at ffrind yn 1754 mae’n dweud am ei hunan:
Yr wyf yn hen ddyn. Yng ngolwg dynion, yn anghydffurfiwr; yng ngolwg Duw, rwy’n hyderu yn Gristion. Yr wyf hefyd yn fasnachwr, yn un sylweddol yn y dref a’r gymdogaeth hon; ond rwy’n ymddiried yn llwyr yn fy Anwylyd, gan fod y masnachu gorau yn gorwedd mewn gwlad bell...mae fy masnach tua’r wlad sydd tu hwnt i’r Iorddonen, a fy mhrif ymwneud gyda Brenin Seion, cyfaill da i fasnachwyr, gan iddo ddarparu ar fy nghyfer eiddo sylweddol... ac etifeddiaeth da a rhagorol, ...etifeddiaeth y byddaf yn cael hwylio i’w derbyn pan y bernir fod amser fy mordaith wedi cyrraedd.’
Wedi rhoi ychydig o’r cefndir, pam siarad am Joseph Williams yng nghyd-destun Cant i Gymru? Wel, roedd yn un o gyfeillion Howel Harris, ac yn llythyru yn gyson ag ef. Yr un pryd, yr oedd hefyd yn deithiwr cyson, a byddai’n aml yn gorfod mynd gyda’i waith i sicrhau prynwyr i’w ddefnydd. Ar y teithiau yma, byddai’n aml yn chwilio am weinidogaeth efengylaidd rhai o arweinwyr y Diwygiad. Mae’n adrodd droeon yn y dyddiadur am oedfaon dan arweiniad Whitfield, John Wesley ac eraill, oedfaon oedd yn dod a llawenydd anghyffredin iddo. Er ei fod yn Anghydffurfiwr, eto, roedd yn gweld bywyd a gweinidogaeth llawer o’i gyd anghydffurfwyr yn sych a di-fywyd, ond nid felly y rhai yr oedd Duw wedi codi o blith Eglwys Loegr o bob man! Mae’n nodi yn ei ddyddiadur: ‘mae y pennaf, os nad yr unig weinidogion defnyddiol yw’r rhai sy’n medru, ac yn pregethu o brofiad eirias.’ Fel Richard Baxter ganrif ynghynt, yr oedd Williams yn edrych am bregethwyr oedd yn pregethu ‘as a dying man to dying men’.
Fel un oedd wedi gwahodd Howel Harris i’w gartref yn Kidderminster, mae Williams yn ymweld â chartref Harris ar ddiwedd Mehefin 1746. Tra ei fod yno mae’n cael ei hun yng nghanol un o gyfarfodydd arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru, - ‘Cymdeithasfa’ neu ‘Sasiwn’. Yn ychwanegol i Harris, yr oedd Daniel Rowland a William Williams Pantycelyn yno, a hefyd, Howel Davies, ddaeth yn ddiweddarach i gael ei adnabod fel ‘Apostol Penfro’. Mae hefyd yn adrodd fod tua 20 o bregethwyr yno, gan gynnwys un o bregethwyr Llangeitho, William Richard Llwyd, a fod hwnnw wedi pregethu am ddwy awr yn y Gymraeg. Er fod Joseph Williams yn dweud fod y profiad yn ‘somewhat painful’ gan nad oedd yn deall gair, eto mae ymateb y gynulleidfa, a gwaith amlwg Ysbryd Crist ar bob un ohonynt yn ei wneud yn brofiad cofiadwy. Yn dilyn pregeth arall gan Howel Davies, mae’r criw yn treulio ychydig amser yn cymdeithasu. Yn ystod y cyfnod hwn mae Joseph Williams yn cael ychydig o hanes y gwaith. Rwy’n cynnwys isod rhydd gyfieithiad o’r cofnod yn ei ddyddiadur.
Dysgais ganddynt fod yr Arglwydd wedi codi y Parch Mr Rowlands yn Sir Aberteifi a Mr Howel Harris yn Sir Frycheiniog ar yr un adeg a Mr Whitfield a’r Wesleys, a’r cyfan ar wahân i’w gilydd, a’i fod wedi anrhydeddu eu gwaith mewn ffordd rhyfeddol a gwasgaru eu gweithgarwch dros y rhan fwyaf o Gymru, a’r cyfan o fewn cyfnod o 11eg mlynedd o gychwyn y gwaith, fel bod, o fewn Cymru tua 6 neu 7 o Glerigwyr, 40 o bregethwyr a 140 o Gymdeithasau crefyddol sydd bellach yn pregethu a derbyn Efengyl bur Crist; eu bod wedi cyfarfod ag erledigaeth sylweddol a llawer o wrthwynebiad, ond fod y cyfan wedi cyfrannu at lwyddiant yr Efengyl, fel eu bod bellach yn trechu’r gwrthwynebiad gan eu niferoedd; a mae Mr Rowlands sy’n dal dau blwyf ac sydd yn pregethu mewn dwy eglwys ar bob dydd yr Arglwydd a mewn dau Gapel ar ddyddiau’r wythnos yn medru dweud wrthyf fod ganddo 3,000 o gymunwyr a dywedodd Mr Davies wrthyf fod ganddo 2,000 yn Sir Benfro. Gyda’r fath nerth y mae Gair Duw wedi tyfu a mynd ar led yma. Oni ddylwn orfoleddu yn y fath fuddugoliaethau o eiddo Croes Crist? Ond, caf weld pethau mwy na hyn.
Sylwch ar y frawddeg olaf yna eto – yr oedd yn disgwyl gweld mwy! Pan glywais gyntaf am weledigaeth Cant i Gymru gan Ben, rhaid imi gydnabod fy mod wedi fy syfrdanu gan hyder a sicrwydd y weledigaeth yma. Nid dyma’r hyn y byddwn yn ei glywed amlaf, os o gwbl, yn enwedig yn y Gymru Gymraeg. Ond, mae yna fantais fawr i wybod ychydig o hanes. Yn y Sasiwn yn Nhrefeca mae Joseph Williams yn cael clywed fod yna 140 o seiadau wedi eu sefydlu ar hyd a lled Cymru, a hynny mewn 11eg mlynedd, a bod Rowlands a Howel Davies yn medru adrodd am 5,000 o gymunwyr! O ran gwybodaeth, ar waethaf anghytundeb rhwng Howel Harris a Daniel Rowlands yn 1751 a arweiniodd at gyfnod gweddol hesb yn hanes y twf, eto, erbyn 1760, roedd yna 283 o seiadau yn Ne Cymru a 56 yn y Gogledd.
Yn ychwanegol, mae’n iawn tynnu sylw hefyd at oed yr arweinwyr yn 1746. Roedd Harris bellach yn 32, Rowland yn 33, William Williams yn 29 a Howel Davies yn 30. I rywun sydd yn mynd yn hŷn mae’n anodd o bryd i’w gilydd ymddiried gwaith i rai sy’n iau o lawer. Meddyliwch am y rhain, yr oed yma, rhai ohonynt wedi bod yn arwain ers 11eg mlynedd yn barod!!!
Dim ond cant? Rwy’n tybied, fel yn hanes gwas Eliseus o weld maint ein anawsterau, da fyddai cael ein hatgoffa am y ‘mwy sydd gyda ni nag sydd gyda hwy’, gan weddïo fel Eliseus, y bydd i’r Arglwydd agor llygaid ei bobl i weld hyn.
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Sudden Floods and Slow Growth: Praying for Wales' Spiritual Renewal
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt - Gweddi am Undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Lle o Her a Gobaith
- 4 Hydref 2024O Hedyn Gwyllt i Eglwys sy’n Tyfu
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
- 20 Medi 2024Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
- 6 Medi 2024Ble mae'r dagrau
- 6 Medi 2024Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo
- 6 Medi 2024Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
- 10 Tachwedd 2023Reflections
- 18 Hydref 2023Raising an Army of Ordinary Intercessors (pt.3)
12