Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
Ben Midgley
Mae Ebenezer Baptist Church yn eglwys aml-oed, aml-ddiwylliannol (FIEC) yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. ‘Dy ni’n agos i’r ffîn, ddim yn bell o Gaer a Wrecsam – a nacydi, tydi Ryan Reynolds ddim yn ein eglwys ni… eto! Dros amser, a gyda chymorth Duw, mae olyniaeth o fugeiliaid efengylaidd ac aelodau ffyddlon wedi adeiladu’r eglwys. Yn y gorffennol, rydyn ni wedi cefnogi eglwysi eraill, dechrau ‘gorsafoedd genhadol’ a chyfrannu at genhadaeth dramor. Yn ddiweddar, mae plannu eglwysi wedi dod yn faich enfawr i ni.
Yn hanesyddol mae amrywiaeth ffyniannus o gapeli ac eglwysi enwadol wedi bod yn ein rhanbarth ni, ond fe ddechreuon nhw leihau a chau wrth i ddiwydiant ddod i ben ac i bobl adael i fyw mewn dinasoedd, ac yn ddiwinyddol fe aeth yr efengyl ar goll mewn pryderon eraill. Daeth y diwygiad yn chwedl. Dros y degawd diwethaf, rydym wedi ceisio plannu tair eglwys.
1. Pantymwyn: Mae’n gwaith plannu cyntaf wedi troi i fod yn braidd annibynnol gyda tua ugain o bobl yn cwrdd yn fisol mewn pentref tu allan i’r dref.
2. Dinbych: Mae’r ail waith plannu wedi cofrestru fel eglwys annibynnol yn ddiweddar. Mae eu bugail cyntaf (ein cynorthwyydd, gynt) yn dechrau fis Tachwedd, wedi deg mlynedd o ymdrech i blannu. Mae tua chwech deg o bobl yn mynychu, a bellach mae henuriaid a diaconiaid ganddynt.
3. Bwcle: Yn anffodus, bu hi’n anodd iawn ar y trydydd eglwys i ni blannu oherwydd COFID-19, felly daeth y gwaith i ben oherwydd sawl rheswm dwi wedi trafod eisioes ar bodlediad i’r FIEC. Fodd bynnag, y newyddion da yw ein bod ni’n cefnogi gwaith eglwys arall yng Nghaer sy’n bwriadu parhau gyda’r gwaith ddechreuom ni. Maent yn anfon Ben Peterson i blannu ym Mwcle flwyddyn nesaf, sy’n cyffroi ni’n fawr.
Beth sy'n nesaf?
‘Dy ni wedi dewis Rhuthun fel lleoliad posib ar gyfer plannu yn y dyfodol. Rydym hefyd yn neilltuo 3% o’n arian i gronfa ar gyfer plannu eglwysi yn y dyfodol, lle bynnag fydd yr angen. Mae un o’n henuriaid a minnau’n ymwneud â ‘Reach North Wales’, sy’n cefnogi plannu eglwysi ar draws y rhanbarth. Rydym yn cyfarfod i weddio gyda arweinwyr eglwysi eraill er mwyn cadw’r genhadaeth yma’n flaenoriaeth, ac i geisio arweiniad Duw.
Rydym yn gweddïo am:
- Plannwyr ac efengylwyr sydd wedi’w donio a’u galw i’r gwaith.
- Aelodau calon-meddal o eglwysi bach sy’n cael trafferth ond fyddai’n agored i drosglwyddo arweiniad draw i waith newydd yn eu cymuned.
- Siaradwyr Cymraeg gyda chalon dros y weinidogaeth.
- Darpariaeth Duw am ddoethineb, adnoddau, a drysau agored. Yn fwy na dim, ni’n ceisio Ei bresenoldeb, ei ras, a'i allu i achub.
Rydyn ni’n credu bod angen i blannu eglwysi yng Nghogledd Cymru fod yn ‘fudiad lleol’. Allith o ddim bod mor syml â mabwysiadu model trefol neu faestrefol o’r tu allan, fel yr Unol Daliaethau. Mae angen i ni adeiladu perthnasoedd, dysgu wrth i ni fynd, a denu pobl at genhadael byw, datblygol.
Mae lot o bethau gwych yn digwydd ar draws Gogledd Cymru. Er, yn naturiol, bydd rhywfaint o gynnig a gwella, ni’n cael ein anog gan y ffordd mae Ysbryd Duw yn symud. Mae pethau yn datblygu ar gyflymder a graddfa mawr i ‘Cant i Gymru, a phethau’n symud yn arafach gyda ni, ond ‘dy ni’n ddiolchgar am y gymdeithas.
Cadwch ni yn eich gweddïau, os gwelwch yn dda, yn enwedig wrth i’n cynorthwyydd Ben Slatter fynd i Ddinbych. Rydyn ni bellach yn chwilio am rywun sydd â gweledigaeth ac egni i'n helpu ni i symud ymlaen yn yr Wyddgrug. Diolch am gofio amdanom ni.
Ben Midgley
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Sudden Floods and Slow Growth: Praying for Wales' Spiritual Renewal
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog: Lle mae Hanes, Brwydro a Gobaith
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt - Gweddi am Undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Lle o Her a Gobaith
- 4 Hydref 2024O Hedyn Gwyllt i Eglwys sy’n Tyfu
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Gweddïo dros Sir Gâr – Atgofion, Gobeithion, a Chynlluniau
- 20 Medi 2024Llawenydd a Heriau Bod yn Eglwys sy’n Plannu Eglwysi
- 6 Medi 2024Ble mae'r dagrau
- 6 Medi 2024Darganfod Ceredigion: Galwad i Weddïo
- 6 Medi 2024Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
- 10 Tachwedd 2023Reflections
- 18 Hydref 2023Raising an Army of Ordinary Intercessors (pt.3)
12