Mae pob nod sylweddol yn cychwyn gyda’r cam cyntaf. Ymuna â ni ar ein taith i gynnau 100 awr o weddi pob dydd, gweddi dros blannu, dros ddiwygiad yng Nghymru.
Dewiswch ddewis iaith
Please choose a language preference
/
Eglwys Mercy yn Adamsdown, Caerdydd.
Dai Hankey
Mercy Church
Mae Adamsdown, ardal dociau gynt yng Nghaerdydd, yn gymuned hynod ddiddorol gyda hanes cyfoethog o'r efengyl yno. Yn wir, cafodd y Symudiad Ymosodol ei eni allan o gyfarfod gweddi yn Eglwys Bresbyteraidd Clifton Street pan roedd John Pugh yn weinidog yno (gwnewch ffafr â'ch hun a darllen "Grace, Grit and Gumption" gan Geraint Fielder, os nad ydych wedi'i ddarllen eisoes!) Yn anffodus, mae'r eglwys hon, fel llawer o eglwysi yn yr ardal, wedi cau eu drysau ers amser maith.
Heddiw, mae Adamsdown yn gymuned dwys ei phoblogaeth ac yn hynod amrywiol, a dyma'r prif ardal mae ceiswyr lloches yn cael eu lleoli iddo yng Nghaerdydd. Mae dwsinau o hosteli, canolfannau adsefydlu a bedsits yn yr ardal, sy'n rhoi'r teimlad i bobl mai dim ond dros dro eu bod nhw yna ac nad ydi e'n barhaol ac o ganlyniad mae nifer yn teimlo heb wreiddiau ac yn ddiobaith. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae dirywiad Adamsdown wedi bod yn dorcalonnus wrth i dlodi, amddifadedd, chwalfa gymdeithasol, caethiwed a throseddu gael effaith ddinistriol. Yn y cyd-destun yma, mae Eglwys Mercy yn gobeithio disgleirio goleuni efengyl Iesu trwy eiriau a gweithredoedd o drugaredd.
Sefydlwyd Mercy Church ym mis Ionawr eleni gan dîm bach o Gristnogion sydd naill ai yn byw yn Adamsdown neu sy'n caru'r lle. Mae Mercy yn cael ei harwain gan Dai a Michelle Hankey sydd wedi byw yn Adamsdown gyda'u pedwar o blant am yr 8 mlynedd diwethaf. Mae'r eglwys wedi bod yn cwrdd yn nhŷ'r Hankeys am yr 8 mis diwethaf, ond rydym wedi rhentu adeilad yn ddiweddar (oedd arfer bod yn fanc) reit yng nghanol y gymuned ar Clifton Street. Mercy on Clifton' fydd 'cartref' Mercy Church ac ein gweddi yw y bydd yn lle o bresenoldeb, mawl, gweddi a datgan yr efengyl.
Ymunwch â ni yn gweddïo tuag at y nod hwnnw!
Pwyntiau gweddi:
- Rydym yn eglwys ifanc, felly gweddïwch y byddwn yn tyfu gyda'n gilydd mewn cariad at Iesu ac at ein gilydd.
- Rydym yn eglwys fechan (llai na 20 ohonom gan gynnwys plant), felly gweddïwch i Dduw anfon gweithwyr a arweinwyr i ymuno â ni. Rydym yn gweddïo'n arbennig am bâr priod â dawn bugeiliol, gweinyddydd dawnus a rhai sydd â brwdfrydedd dros bobl ifanc i ymuno â'r tîm.
- Rydym yn eglwys tlawd, felly gweddïwch y bydd Duw yn arllwys Ei adnoddau cyfoethog arnom.
- Rydym yn eglwys gwan, felly gweddïwch y byddwn yn adnabod presenoldeb a grym yr Ysbryd Glân yn gweithio ynom a thrwom.
- Rydym yn eglwys sy'n llawn ffydd, felly ymunwch â ni yn gweddïo am lawer iawn o ddynion, menywod a phlant i ddod i ffydd achubol yn yr Arglwydd Iesu Grist!
Gallwch ddarganfod mwy yn www.mercychurch.co.uk.
- 7 Tachwedd 2025Powys
- 7 Tachwedd 2025Hanes Plannu - Cross Hands
- 7 Tachwedd 2025Noson Weddi Gen-Z yn y Bala
- 29 Hydref 2025Revival & The Unity of the Church
- 3 Medi 2025Torfaen
- 7 Mai 2025Diweddariad ar waith Rhwyd y Brenin
- 17 Rhagfyr 2024Capel Goleudy Môn
- 27 Tachwedd 2024Freedom Church Porth
- 28 Hydref 2024Llifogydd Sydyn a Thyfiant Araf
- 28 Hydref 2024Bro Ffestiniog
- 4 Hydref 2024Ychydig o Helynt – gweddi am undod yng Nghymru
- 4 Hydref 2024Blaenau Gwent
- 4 Hydref 2024Eglwys Hope Sir Benfro
- 20 Medi 2024Dathlu Blwyddyn o 100 i Gymru
- 20 Medi 2024Sir Gâr
12
